Cynorthwy-ydd Cyllid Dan Hyfforddiant

3 weeks ago


Caernarfon, United Kingdom Rondo Media Full time

Cynorthwy-ydd Cyllid dan hyfforddiant

Mae Rondo yn edrych am unigolyn brwdfrydig gyda phrofiad yn y maes cyllid neu ddiddordeb mawr i hyfforddi yn y maes hwn. Cyfle i ymuno a’r tîm bach sy’n cydlynu cyllid cynyrchiadau megis Rownd a Rownd, Sgorio, Cynefin, Pen Petrol a llu o rai eraill. Mae’n agoriad gwych i ddatblygu gyrfa mewn diwydiant cyffrous gan weithio ar bob math o gynnwys.

Byddwch yn cydweithio ar bob cam o’r broses gynhyrchu rhaglenni, o greu cyllideb, gweinyddu’r gyllideb i baratoi adroddiadau yn ôl y galw.

Prif Ddyletswyddau:

- Mewnbynnu anfonebion ar ran Rondo, Yeti ac Aria Studios.
- Taliadau ac ymholiadau cyflenwyr
- Cysoni cyfrifon banc
- Delio gydag arian parod a chardiau credyd y cwmni
- Paratoi adroddiadau a chyfrifoldebau eraill yn ôl y galw.

Bydd pecyn hyfforddi yn cael ei gynnig i’r unigolyn llwyddiannus.

Cytundeb: 12 mis

Lleoliad: Caernarfon

Cyflog: i’w drafod yn unol a phrofiad

Oriau gwaith: 0900 - 1700 Llun i Gwener

Dyddiad cau: 03/02/2023

Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
- (The above advert is for the post of Trainee Finance Assistant for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.)_

**Job Type**: Fixed term contract
Contract length: 12 months

**Salary**: From £20,000.00 per year

Schedule:

- Monday to Friday

Ability to commute/relocate:

- Caernarfon: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)

**Education**:

- GCSE or equivalent (preferred)

**Experience**:

- customer service: 1 year (preferred)

Work Location: One location

Application deadline: 03/02/2023


  • Cynorthwy-ydd Cyllid

    4 weeks ago


    Caernarfon, United Kingdom Antur Waunfawr Full time

    **Pecyn Recriwtio** **Cynorthwy-ydd Cyllid** **Antur Waunfawr** **Neges gan y Brif Weithredwraig** **Annwyl Ymgeisydd,** Diolch ichi am ddangos diddordeb mewn ymuno ag Antur Waunfawr fel Cynorthwy-ydd Cyllid dros gyfnod mamolaeth. Gweledigaeth R. Gwynn Davies, gyda chefnogaeth gref gan bobl ardal Waunfawr fu’n gyfrifol am sefydlu Antur Waunfawr yn...

  • Cymorthydd Cegin

    1 month ago


    Caernarfon, United Kingdom Menter Ty'n Llan Full time

    **Cymorthydd Cegin - Swydd Ddisgrifiad** **Pwrpas y swydd**: - Gweithio efo’r prif gogydd i - reoli’r gegin - rheoli staff - gwneud yn siwr bod bwyd bob amser yn ffres - helpu efo ordro a stocio - cadw’r gegin yn lân bob amser - creu a coginio prydau blasus **Mae Menter Ty’n Llan yn disgwyl i chi**: - weithio fel rhan o dîm sy’n cefnogi ei...


  • Caernarfon, United Kingdom Meddygfa Waunfawr Full time

    Cynorthwydd Gofal Iechyd/ Dosbarthwr Presgripsiwn Health Care assistant/ Prescription Dispenser **Company description** Waunfawr Surgery **Job description - English below** Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a brwdfrydig i ymuno â’n tîm cyfeillgar Rydym yn feddygfa brysur, felly bydd y rôl yn gweddu i rywun sy’n gallu amldasgio a...


  • Caernarfon, United Kingdom Arfon Dwyfor Training (WBL) Ltd Full time

    Do you have experience in the areas of Business Administration / Management / Retail / Customer Service or Warehousing? We are looking to appoint qualified Assessors /IQAs to recruit and maintain a caseload of learners, deliver training, assessment, support and guidance to learners undertaking apprenticeship training with organisations in North...

  • Swyddog Prosiectau

    4 weeks ago


    Caernarfon, United Kingdom Antur Waunfawr Full time

    **SWYDD DDISGRIFIAD** **Dyddiad Cwblhau**:Mawrth 2024 **Teitl y Swydd**:Swyddog Prosiectau*** **Adran y Swydd**:Canolog*** **Lleoliad y Swydd**:Waunfawr*** **Hyd Cytundeb**: Blwyddyn (Mehefin 2024 Mehefin 2025)*** **Gradd y Swydd**:Gradd 3 - £26,184*** **Atebol i**:Prif Weithredwraig **Oriau a dyddiau gwaith**:DyddLlun i Gwener, 37.5 awr yr...

  • Technical Assistant

    1 month ago


    Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

    **Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...