Cymorthydd Cegin

2 months ago


Caernarfon, United Kingdom Menter Ty'n Llan Full time

**Cymorthydd Cegin - Swydd Ddisgrifiad**

**Pwrpas y swydd**:

- Gweithio efo’r prif gogydd i
- reoli’r gegin
- rheoli staff
- gwneud yn siwr bod bwyd bob amser yn ffres
- helpu efo ordro a stocio
- cadw’r gegin yn lân bob amser
- creu a coginio prydau blasus

**Mae Menter Ty’n Llan yn disgwyl i chi**:

- weithio fel rhan o dîm sy’n cefnogi ei gilydd
- cefnogi’r Cogydd yn ei waith bob dydd
- mwynhau’r gwaith

**Dyletswyddau**:

- Arwain tîm y gegin pan fydd y Cogydd na’r Is-gogydd ddim yna
- Arwain a dysgu aelodau ifanc staff y gegin, e.e. coginio lein, paratoi bwyd, a platio prydau, glanhau’r gegin
- Trefnu stoc y gegin
- Trefnu system storio bwyd (cyntaf i mewn/cyntaf allan) a gwneud yn siwr bod y dyddiad wedi’i roi ar pob bwyd yn y ffrij a’r gist rew
- Gwneud yn siwr bod y gegin a’r holl lefydd storio’n cael eu cadw’n lân a thaclus ar ddiwedd pob shifft
- Gwneud yn siwr fod gwaith papur hylendid bwyd (‘food hygiene’) yn cael ei lenwi bob dydd
- Gwneud yn siwr bod digon o stoc, yn enwedig cyn ac yn ystod oriau prysur
- Cadw rhestr o’r holl ordors a gweithio efo’r Cogydd a’r Tîm Rheoli i leihau gwastraff
- Rheoli'r holl baratoi a platio bwyd i wneud yn siwr ei fod o safon da
- Gweithio gyda’r prif gogydd i redeg y gegin, i reoli staff a helpu hyfforddi
- Helpu'r prif gogydd i greu bwydlenni a choginio prydau

**Sgiliau**:

- Wedi cael hyfforddiant coginio
- Wedi gweithio mewn bwyty
- Gwybodaeth am hylendid bwyd (_food hygiene_) a iechyd a diogelwh (_health and safety_) a thystysgrifau
- Gallu bod yn drefnus a manwl
- Gallu arwain a rheoli tîm
- Bod yn frwdfrydig ac yn bositif
- Gallu gweithio o dan bwysau
- Gallu trin pobl a chwsmeriaid
- This is an advertisement for a Kitchen Assistant where the ability to speak Welsh is essential_

**Job Types**: Temporary contract, Temp to perm, Part-time, Full-time

**Salary**: £8.50-£11.00 per hour

**Benefits**:

- Flexitime

Schedule:

- Flexitime

Work Location: In person

Application deadline: 23/06/2023
Reference ID: KA


  • Cymorthydd Cegin

    1 week ago


    Caernarfon, United Kingdom Menter Ty'n Llan Full time

    **Cymorthydd Cegin - Swydd Ddisgrifiad** **Pwrpas y swydd**: - Gweithio efo’r prif gogydd i - reoli’r gegin - rheoli staff - gwneud yn siwr bod bwyd bob amser yn ffres - helpu efo ordro a stocio - cadw’r gegin yn lân bob amser - creu a coginio prydau blasus **Mae Menter Ty’n Llan yn disgwyl i chi**: - weithio fel rhan o dîm sy’n cefnogi ei...