Cynorthwy-ydd Cyllid

2 months ago


Caernarfon, United Kingdom Antur Waunfawr Full time

**Pecyn Recriwtio**

**Cynorthwy-ydd Cyllid**
**Antur Waunfawr**

**Neges gan y Brif Weithredwraig**

**Annwyl Ymgeisydd,**

Diolch ichi am ddangos diddordeb mewn ymuno ag Antur Waunfawr fel
Cynorthwy-ydd Cyllid dros gyfnod mamolaeth.

Gweledigaeth R. Gwynn Davies, gyda chefnogaeth gref gan bobl ardal Waunfawr fu’n gyfrifol am sefydlu Antur Waunfawr yn 1984.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi datblygu, ac mae’r fenter gymdeithasol erbyn heddiw'n cyflogi dros 100 aelod o staff, ac yn cefnogi dros 65 o oedolion gydag anableddau dysgu.

Yn y pecyn gwybodaeth hwn cynwysir gofynion ac amodau'r swydd, ond mae croeso ichi gysylltu i drafod ymhellach.

Cofion cynnes,

**Ellen Thirsk,**
**Prif Weithredwraig**

**1**

**SWYDD DDISGRIFIAD**

RHAN UN

**Dyddiad Cwblhau**: Ebrill 2023

**Teitl y Swydd**:Cynorthwy-ydd Cyllid (cytundeb 9-12 mis dros gyfnod mamolaeth)

**Adran y Swydd**:Canolog

**Lleoliad y Swydd**:Waunfawr

**Gradd y Swydd**:2 - £23,057 pro rata y flwyddyn

**Atebol i**:Rheolwr/wraig Cyllid

**Deiliad y swydd**:
**Staff cyflogedig â chyfrifoldeb uniongyrchol amdanynt**:
**Nod Cyffredinol y Swydd**

1. Gweinyddu o ddydd i ddydd holl faterion cyllid Antur Waunfawr, a gofalu eu bod yn cael eu gweithredu yn effeithlon

2. Cyfrannu yn adeiladol at weithgareddau Antur Waunfawr

**Prif Ddyletswyddau**

**1. Gweinyddu o ddydd i ddydd holl faterion cyllid Antur Waunfawr, a gofalu eu bod yn cael eu gweithredu yn effeithlon**
- Gwirio yn amserol gwerthiant prif incwm Warws Werdd, eu cywiro ac eu reconseilio i alluogi’r Adran Gyllid wirio y symiau diwedd pob mis.
- Sicrhau bod anfonebau gofal achlysurol ar gyfer holl wasanaethau perthnasol y Cwmni yn cael eu prosesu yn rheolaidd, ac o ganlyniad yn dod a llif arian cyson.
- Gweinyddu incwm a thaliadau tai Cynlllun Cartrefu gan gynnwys anfonebu y Gymdeithas Tai am les 5 ty yn fisol
- Cofnodi a dadansoddi adroddiadau incwm y til ar gyfer Beics Antur,

Warws Werdd a Caffi gan gynnwys gwariant arian parod sydd yn mynd drwy’r til. Gwirio’r incwm ac ymchwilio a datrys unrhyw anghysondebau er mwyn medru reconseilio’r incwm
- Gweinyddu’r broses o gofnodi a chysoni incwm holl daliadau’r Cwmni
- Casglu a dadansoddi ystadegau yn unol â chais y Rheolwr/wraig Cyllid
- Cynorthwyo gyda chynllunio ariannol y Cwmni
- Sicrhau gweinyddu’r gwaith yn amserol er mwyn galluogi’r Rheolwr/wraig

Cyllid i ddarparu cyllidebau misol cywir ac adroddiadau ariannol yn amserol ar gyfer Rheolwyr yr Antur a Bwrdd Rheoli’r cwmni.
- Cynorthwyo i baratoi cyllidebau/costau ar gyfer ceisiadau grantiau mewn cydweithrediad a’r swyddogion perthnasol
- Sicrhau cywirdeb holl wybodaeth ariannol y cwmni er mwyn cynorthwyo y

Rheolwr/wraig Cyllid i baratoi cyfrifon blynyddol yn amserol ar gyfer archwiliad, a cyfrifon ar gyfer y Brif Weithredwraig a Bwrdd y Cwmni.
- Sicrhau fod pob gweithrediad ariannol yn cael ei gofnodi yn gywir ar gyfer

Treth ar Werth (TAW), gan sicrhau fod cofnodi ‘partial exemption’ yn cael ei wneud yn gywir.
- Yn gyfrifol am sicrhau fod anfonebau prynu sy’n seiliedig ar ddarlleniadau mesurydd yn gywir. Casglu darlleniadau yn fisol gan y Rheolwyr priodol a bwydo i’r darparwyr perthnasol e.g nwy, trydan, dŵr
- Cynorthwyo’r broses o baratoi a chysoni cyfrifon rheoli misol.
- Cyfrifol am arian parod y cwmni gan sicrhau bod yr adrannau hefo digon o arian
- Cadw ystadegau perthnasol ar gyfer monitro'r gwasanaeth fel bo’r angen.
- Prosesu ffurflenni treuliau staff i’r holl gwmni yn fisol

**2. Cyfrannu at weithgareddau eraill ac amcanion cyffredinol Antur**
**Waunfawr**
- Dealltwriaeth o bwysau gwaith y Rheolwr/wraig Cyllid, a sicrhau ymateb i

anghenion yr adran a gweithredu arnynt
- Sicrhau mewn cydweithrediad a gweddill y tim bod yna rhywun ar gael yn cyllid h.y. gweithio ar ddiwrnodau tu allan i gytundeb gwaith er mwyn galluogi gwyliau ayb, a gofalu bod bosib datrys unrhyw sefyllfa hyd yn oed os tydi'r Rheolwr/wraig Cyllid ddim ar gael.
- Mynychu hyfforddiant yn angenrheidiol i’r swydd
- Gweithio fel aelod o’r tîm ar brosiectau eraill Antur Waunfawr yn ôl y galw.
- Gweithredu fel cynrychiolydd Antur Waunfawr yn y gymuned.

RHAN DAU

**1. Arolygaeth**

Rheolwr/wraig Cyllid - arolygaeth pob 3 mis a chyswllt rheolaidd.

**2.** **Awdurdod**

I ba raddau mae disgwyl i’r swydd-ddeiliad:

- a) Symbylu, cynnig a datblygu polisi?

Byth. b) Dewis a diswyddo staff (dangoswch ai’n gyflogedig neu’n hunan
- gyflogedig).

Byth c) Adolygu perfformiad a hyfforddi/datblygu staff.

Byth.

**3. Cyswllt ag Eraill**

**Pwy Pam Pa Mor Aml**
**(teitl y swydd)**

O fewn Antur Rheolwraig Cyllid Materion Dyddiol
Waunfawr: a Swyddog Cyllid Cyllid

Rheolwyr

Gwasanaethau Materion Dyddiol cyllid/ariannol

Allanol Cwmniau, Sicrhau safon Dyddiol

Cyrff proffesiynol, uchel a cyhoeddus a wasanaeth phreifat Anfonebu
Incwm a talu biliau

Banc yr Antur Trefn bancio, Fel bo’r galw taliadau BACS, ac materion achlysurol

**4. Canlyniad Camgymeriadau**

Rhowch amcan o ran amser neu



  • Caernarfon, United Kingdom Rondo Media Full time

    Cynorthwy-ydd Cyllid dan hyfforddiant Mae Rondo yn edrych am unigolyn brwdfrydig gyda phrofiad yn y maes cyllid neu ddiddordeb mawr i hyfforddi yn y maes hwn. Cyfle i ymuno a’r tîm bach sy’n cydlynu cyllid cynyrchiadau megis Rownd a Rownd, Sgorio, Cynefin, Pen Petrol a llu o rai eraill. Mae’n agoriad gwych i ddatblygu gyrfa mewn diwydiant cyffrous...