Gweinyddwr

1 month ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae'r swyddi uchod yng Nghyfarwyddiaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai Bro Morgannwg - Tîm Cymorth Busnes, sy'n cynnwys gwasanaethau rhyng-gysylltiedig o fewn Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth a Thai. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnwys gweithrediadau rheng flaen sylweddol a blaenllaw sy'n cyflawni swyddogaethau amrywiol yn uniongyrchol i ddinasyddion Bro Morgannwg ac ymwelwyr â hi.

Mae Cymorth Busnes yn gyfrifol am ddarparu cymorth i'r swyddogaethau yn y gyfarwyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys cydlynu Cynllun Ceir Cronfa Corfforaethol y Cyngor, Ceisiadau Llithrffordd, Rhandiroedd, Cerbydau Gadawedig, rhoi trwyddedau tymhorol a thrwyddedau preswyl a phrosesu ceisiadau. Prosesu ceisiadau ffilmio a phrosesu placiau coffa.

Mae hwn yn gyfle gwych i weithio o fewn y Cyngor a rhoi'r profiad i chi symud ymlaen. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig llawn cymhelliant sy’n chwilio am ddyfodol disglair.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Gradd 4 - PCG 5 - 7 (£21,575 - £22,369) y flwyddyn

Oriau Gwaith - 37 awr yr wythnos

Prif Leoliad Gwaith - Mae’r swyddfeydd wedi’u lleoli yn Nepo'r Alpau, Gwenfô.

**Disgrifiad**:
Rhoi cymorth gweinyddol i’r Gyfarwyddiaeth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o systemau a chynorthwyo'r sefydliad i ddarparu gwasanaethau i'n cwsmeriaid a sicrhau eu bod yn gwella'n barhaus.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- O leiaf blwyddyn o brofiad mewn gwasanaethau gweinyddol cyffredinol.
- Profiad o weithio ag ystod eang o becynnau meddalwedd i ddarparu gwasanaethau gweinyddol.
- Profiad o weithio tuag at derfynau amser a thargedau.
- Paratoi a chasglu adroddiadau rheoli a gwybodaeth pan fo angen.
- Profiad o drin gwybodaeth a thalu sylw i fanylion, ac yn meddu ar sgiliau cyflwyno cryf.
- Gwybodaeth am wasanaethau’r Gyfarwyddiaeth gan gynnwys y Cynllun Ceir Cronfa.
- Gwybodaeth am arferion da o ran darparu gwasanaethau gofal cwsmeriaid.
- Defnydd eang o Microsoft Office Outlook.
- Gallu defnyddio cyfrifiaduron a gallu amlwg i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office. Gan gynnwys: (Microsoft Office gan gynnwys Excel, Word)
- Sgiliau rhyngbersonol a phobl ardderchog.
- Ymrwymiad i fynd â chais trwy’r broses hyd cwblhau a chadw at gyfyngiadau amser llym.
- Brwdfrydig ac yn gallu dangos blaengaredd.
- Gallu gweithio mewn maes amlddisgyblaethol.
- Person hyderus ag agwedd gadarnhaol.
- Agwedd gadarnhaol at gyflawni.
- Llawn cymhelliant, cefnogol, gweithio’n dda mewn tîm.
- Agwedd ragweithiol at newid a chroesawu gwelliannau parhaus.
- Ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i gwsmeriaid.
- Person prydlon a phroffesiynol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen Gwiriad GDG? Dim

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00445


  • Gweinyddwr Cyfrifon

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Gweinyddwr Cyfrifon yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Byddai'r rôl yn golygu gweithio o fewn y tîm Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc i gefnogi pob aelod o staff gyda dyletswyddau gweinyddol a chymorth. Fel Gweinyddwr Atal a Phartneriaethau byddwch yn rhan o dîm aml-sgiliau, gan gefnogi nifer o brosiectau/mentrau presennol a datblygol. Wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau mae'r...

  • Gweinyddwr Diogelu

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** An exciting opportunity to join our team of Safeguarding Administrators. Based within the Adult and Childrens Safeguarding team, we are seeking suitably experienced, enthusiastic, and highly motivated individuals to join our team and provide administrative support across the teams safeguarding functions. Cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm o...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Tai ac Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai. Mae'r tîm yn goruchwylio cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch ein hasedau tai cyngor er mwyn sicrhau bod ein preswylwyr, contractwyr, gweithwyr neu ymwelwyr yn byw ac yn gweithio...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Rydym yn cynnig cymorth cyflogadwyedd i oedolion 16+ oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda'r unigolion hyn i'w symud i gyflogaeth gynaliadwy ac i ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Tîm bach yw’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol (IG) wedi’i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae'r adran IG yn cefnogi iechyd a lles pob aelod o staff ar draws y Cyngor gan gynnwys Ysgolion ac mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Atgyfeiriadau Rheoli, Arolygu Iechyd a Sgrinio Iechyd, Imiwneiddio, Cwnsela a Hybu Iechyd /...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...