Gweinyddwr Cyfrifon

2 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Gweinyddwr Cyfrifon yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 4 PCG 5-7 (£21,575 - £22,369)

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Swyddfeydd y Dociau

Rheswm am Swydd Dros Dro: Dd/B

***Disgrifiad**:Darparu swyddogaeth gweinyddu ariannol gan gynnwys sefydlu, bilio a chynnal cyfrifon penodedigion corfforaethol, cysylltu â darparwyr gofal cymdeithasol mewnol ac allanol a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Rhoi gwybodaeth briodol ynghylch taliadau, prosesu taliadau a bilio ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, paratoi contractau ar gyfer lleoliadau a thaliadau trydydd parti.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio mewn tîm
- Defnyddio pecynnau TG yn effeithiol, gan gynnwys Microsoft Word, Excel ac Outlook
- Y gallu i fod yn fanwl a chywir.
- Gallu defnyddio menter.
- Sgiliau rhifedd rhagorol
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gan gynnwys y gallu i gymhathu a throsglwyddo gwybodaeth.
- Y gallu i gyflawni gwaith yn unol â safonau a therfynau amser a bennwyd.
- 4 TGAU (Gradd A*-C), neu gyfwerth gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
- Parodrwydd i wneud hyfforddiant.
- Sgiliau gofal cwsmeriaid.
- Y gallu i weithio’n adeiladol fel rhan o dîm, deall swyddi a chyfrifoldebau’r tîm, a rhan y swydd o fewn y rhain.
- Parodrwydd i adennill dyledion ac i ddelio â sefyllfaoedd sensitif gan gynnwys trefnu angladdau.
- Gallu ymateb i anghenion newidiol y swydd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Oes

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00664