Swyddog Safle
6 months ago
**Amdanom ni**
Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i’r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau’r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â’r safonau angenrheidiol.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i flaenoriaethu tasgau a helpu i gadw cofnodion cywir yn gysylltiedig â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
**Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 4 £23,500 - £24,294 pa
**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. 2 shift pattern between wk 1 06:30 - 14:30 - wk 2 14:00 - 22:00 (Fri 12:00 - 20:00)
**Amser tymor** 37awr/wythnos
**Prif Waith**:Civic Office
***Temporary - FTC 1 year
- Cynnig presenoldeb diogelwch corfforol, yn fewnol ac allanol, mewn eiddo sy’n berchen i’r Cyngor er mwyn atal lladrad, tân, difrod / fandaliaeth a thresmasu.
- Cyflawni patrolau rheolaidd o eiddo, yn fewnol ac allanol, yn ystod shifft a monitro offer teledu cylch cyfyng (lle mae wedi’i osod), gan adrodd ar unrhyw achosion mewn modd amserol i’w Oruchwylydd a’r Adran Cyfleusterau.
- Sicrhau bod safleoedd yn cael eu hagor/cau a bod systemau larwm yn cael eu gosod yn unol â’r cyfarwyddiadau a sicrhau cyn lleied â phosib o achosion o larymau ffug/gwallau gan ddefnyddwyr.
- Cynorthwyo a monitro pob ymwelydd â’r safle, gan gynnwys contractwyr, i sicrhau eu bod dim ond yn cael mynediad i’r ardaloedd cywir.
- Ymgyfarwyddo ag offer a pheiriannau’r adeilad, megis systemau gwresogi, i sicrhau bod y safleoedd yn weithredol cyn eu meddiannu.
- Cofnodi tymereddau dŵr yn gywir, am resymau Monitro Legionella, yn Llyfrau Log y Safle.
- Trefnu i glirio rhwystrau, cael gwared ar fater estron o sinciau, tai bach, a draeniau, a glanhau gollyngiadau yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod gylïau, draeniau ac ati yn rhydd o rwbel a bod y safle a’r tiroedd yn rhydd o sbwriel.
- Sicrhau mynediad clir a diogel i gerddwyr i’r safle yn enwedig mewn tywydd gwael (e.e. clirio eira, graeanu llwybrau a ffyrdd mynediad, gosod arwyddion rhybudd, cau ardaloedd peryglus).
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- O leiaf 3 blynedd o brofiad yn y Diwydiant Diogelwch neu ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig â diogelwch.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n ymwneud â gofal cwsmeriaid.
- Gwybodaeth fanwl am swyddogaethau’r Gwasanaethau Adeiladau.
- Gwybodaeth sylfaenol am yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Diwydiant Diogelwch
- Gwybodaeth sylfaenol am reoli a datrys gwrthdaro
- Gwybodaeth dda am systemau rheoli diogelwch electronig
- Gwybodaeth sylfaenol am systemau a pheiriannau gweithrediadau adeiladau h.y. systemau gwresogi, ac yn gyfarwydd â hwy.
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd a’r gallu i lunio adroddiadau cryno a chywir
- Sgiliau llafar gwych, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu’n glir gydag unigolion ar bob lefel.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio corfforol.
- Yn gorfforol actif i allu cynnal patrolau troed rheolaidd ar y safle, y tu mewn/tu allan.
- Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD)
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol ac effeithlon.
- Cadarnhaol a hunan-gymhelliant, gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw
- Y gallu i yrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol
Yn barod i weithio oriau anghymdeithasol ar sail rota (gan gynnwys ar y penwythnosau lle y bo’n berthnasol)
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: N/A
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Steve Ackerman 07989 446726
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: EHS00593
-
Swyddog Mangre
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i’r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau’r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â’r safonau angenrheidiol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i...
-
Uwch Swyddog Gofal Dydd
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...
-
Gwefr
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 3 £11.98ya ***Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. **Amser tymor** 13 awr/wythnos (52 wythnos). **Egwyl** N/A ***Prif Waith**:Alps Depot, Gwenfo **Disgrifiad**: ***Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau...
-
Chargehand/glanhawr - Ysgol Gynradd RHws
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 1 £12.00 ya **Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. **Amser tymor** 11.25awr/wythnos (38 wythnos). **Egwyl** 10.00 awr/wythnos (5 wythnos). **Prif Waith**:Rhws Primary **Disgrifiad**: Cynorthwyo i roi...
-
Swyddog Ystadau
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r adran Ystadau Strategol yn ymwneud â chyflawni ystod lawn o ddyletswyddau proffesiynol sy'n gysylltiedig â Rheoli Ystadau Strategol asedau eiddo'r Cyngor. Rydym yn cefnogi adrannau cleientiaid mewnol i ddarparu gwasanaeth cynghori cynhwysfawr mewn perthynas ag adnewyddu prydlesau eiddo masnachol / adolygiadau rhent (trafodaethau...