Gwefr
6 months ago
**Amdanom ni**
Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau
**Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 3 £11.98ya
***Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener.
**Amser tymor** 13 awr/wythnos (52 wythnos).
**Egwyl** N/A
***Prif Waith**:Alps Depot, Gwenfo
**Disgrifiad**:
***Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau effeithiol i gleientiaid glanhau adeiladau
- Cymryd lle glanhawyr eraill yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch, diffyg staff ac absenoldebau eraill.
- Cynorthwyo’r goruchwylydd / goruchwylydd safle yn achlysurol gyda hyfforddi staff glanhau.
- Ymgymryd â’r holl agweddau ar dasgau glanhau fel; glanhau carpedi a glanhau stêm, glanhau yn unol â'r fanyleb safle, glanhau ar ôl gwaith adeiladu, glanhau yn ystod egwyliau a glanhau arall na nodir fel arfer yn y fanyleb safle.
- Sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau Ariannol, Archebion Sefydlog, Polisïau a Gweithdrefnau’r Cyngor
- Gweithredu egwyddorion Polisi Cyfle Cyfartal y Cyngor wrth gyflawni'r dyletswyddau uchod
- Cydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch / polisïau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor a bod yn gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunan ac iechyd a diogelwch eraill y gallai eich gweithrediadau / diffyg gweithredu effeithio’n wael arnynt.
- Gweithredu egwyddorion Polisi Amgylchedd y Cyngor wrth gyflawni'r dyletswyddau uchod.
- Adrodd am unrhyw bryderon diogelu i’r swyddog amddiffyn priodol heb oedi.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n cyd-fynd â’r raddfa ac yn unol â natur gyffredinol y swydd y gallasai’r Prif Swyddog ofyn i chi eu gwneud o bryd i’w gilydd
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu mewn disgyblaeth/amgylchedd arall cysylltiedig â glanhau.
- Dealltwriaeth sylfaenol o'r amryw dasgau glanhau y mae angen eu gwneud i ddarparu Gwasanaeth Glanhau effeithlon ac effeithiol.
- Sgiliau llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
- Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Parod i weithio oriau afreolaidd.
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: N/A
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Lynne Armstrong 02920 673120
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: EHS00535