Swyddog Ystadau

5 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae’r adran Ystadau Strategol yn ymwneud â chyflawni ystod lawn o ddyletswyddau proffesiynol sy'n gysylltiedig â Rheoli Ystadau Strategol asedau eiddo'r Cyngor. Rydym yn cefnogi adrannau cleientiaid mewnol i ddarparu gwasanaeth cynghori cynhwysfawr mewn perthynas ag adnewyddu prydlesau eiddo masnachol / adolygiadau rhent (trafodaethau Landlord a Thenant), marchnata a gwaredu / caffael safleoedd/eiddo strategol allweddol, prosiectau adfywio, asesiadau safle a phrisio.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 8 (£32,909-£36,298) yn cynyddu i

Gradd 9 (£37,261-£41,496)

Swydd gradd gyrfa wedi ei seilio ar ddechrau ar radd 8 fel person graddedig gan symud i radd 9 ar ôl pasio Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig).

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, Dydd Llun i Ddydd Gwener

Prif Weithle: Y Swyddfeydd Dinesig

**Disgrifiad**:
Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithredol Eiddo a’r Rheolwr Ystadau Strategol i ddarparu gwasanaethau Rheoli Ystadau / Asedau a phrisio.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad mewn Rheoli Ystadau, Gwerthuso a Rheoli Asedau, yn ddelfrydol yn y Sector Cyhoeddus.
- Profiad ymarferol o ddelio â materion Landlordiaid a Thenantiaid yn ddelfrydol mewn sefydliad sector cyhoeddus.
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud ag eiddo / gofod swyddfa.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth landlordiaid a thenantiaid.
- Sgiliau Cyfathrebu Rhagorol (Ysgrifenedig a Llafar)
- Sgiliau TG gwych.
- Sgiliau ysgrifennu adroddiad rhagorol.
- Llwyth gwaith cryf a sgiliau trefnu gyda hanes amlwg o gyrraedd terfynau amser.
- Sgiliau datrys problemau a negodi cryf.
- Cymhwyster gradd achrededig Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig mewn Rheoli Ystadau neu gyfatebol. (Gradd 8)
- Aelod Proffesiynol Llawn o MRICS Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig (dim ond yn ofynnol wrth symud i fyny i radd 9).
- Cadarnhaol a hunan-ysgogol.
- Y gallu i ddatrys problemau.
- Y gallu i addasu i dechnoleg sy’n newid

Gallu gyrru / teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol gyda defnydd o gerbyd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Nac ydy

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Lorna Cross

Rheolwr Gweithredol (Eiddo)

01446 709307

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00358



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Vale Homes yn darparu gwasanaethau i ychydig dros 4,000 o denantiaid cyngor, gan wneud y Cyngor yn landlord mwyaf ym Mro Morgannwg. Fel rhan o dîm bach, darparu gwasanaeth rheoli tai sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy'n ymateb i ystadau; Ymdrin yn gyflym ac yn rhagweithiol â phroblemau rheoli ystadau lefel isel; Gweithredu fel 'llygaid a...