Uwch Bartner Perfformiad Corfforaethol

1 month ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Wedi'ch lleoli yng nghanol ein sefydliad, byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau corfforaethol yn ogystal â mentrau polisi a rheoli perfformiad a fydd yn rhoi'r cyfle i chi gael effaith sylweddol ar y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid.

Os ydych yn weithiwr tîm gwych gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol sy'n mwynhau cynnal ymchwil, dadansoddi ac archwilio’r data i ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwelliannau, rydym yn awyddus i glywed gennych.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Cyflog: Gradd 8 (Pwynt Graddfa 26-30) £32,909 - £36,298 y flwyddyn pro rata

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos

Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig, Y Barri gyda rhywfaint o weithio gartref

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Deiliad y swydd ar secondiad mewn adran arall o'r Cyngor am 18 mis.

**Disgrifiad**:
Mae’r rôl yn cynnwys gweithio ar draws pob adran o'r Cyngor, gydag aelodau etholedig a sefydliadau partner i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau, strategaethau a mentrau corfforaethol. Gan adrodd i'r Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y gweithgareddau canlynol;
- Cymryd yr awenau ar ddull rheoli risg y Cyngor, gan gynnwys datblygu'r Strategaeth Rheoli Risg, canllawiau a hyfforddiant cysylltiedig, systemau cofnodi ac adrodd.
- Darparu diweddariadau rheolaidd i Fwrdd Mewnwelediad Strategol y Cyngor, y Tîm Arweinyddiaeth Strategol a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar risgiau Corfforaethol, gan gynnwys gwneud cysylltiadau rhwng risgiau sy'n dod i'r amlwg a'r risgiau presennol a’r camau corfforaethol posibl y gallai fod eu hangen.
- Gweithio’n agos ag archwilwyr mewnol / allanol er mwyn cynnal enw rhagorol y Cyngor o ran rheoli a monitro perfformiad.
- Cefnogi gwaith sy'n galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'i ddyletswyddau perfformiad statudol mewn perthynas â gosod amcanion lles, gan barhau i adolygu perfformiad trwy hunanasesu ac ymgynghori ac adrodd ar ein perfformiad.
- Darparu cymorth ar brosiectau corfforaethol fel sy'n ofynnol o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol.

**Amdanat ti**
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon bydd angen y canlynol arnoch:

- profiad sylweddol ac amlwg o gymhwyso ystod o ddulliau rheoli perfformiad i gefnogi’r broses o wella'r sefydliad.
- profiad o ddatblygu strategaethau rheoli risgiau corfforaethol gan gynnwys canllawiau, hyfforddiant a dulliau adrodd.
- gwybodaeth ymarferol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 gan gyfeirio'n benodol at ddyletswyddau perfformiad awdurdodau lleol.
- bod yn drafodwr, dylanwadwr ac adeiladwr perthynas medrus gyda'r gallu i ddylanwadu ar swyddogion sy'n gweithio ar lefelau sylweddol uwch yn y sefydliad.
- sgiliau ymchwil, dadansoddol a chyflwyno rhagorol.
- profiad o arwain timau prosiect trawsadrannol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Nac oes

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00327

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Comisiynu yn gweithio i sicrhau bod cytundebau gyda darparwyr yn cael eu rheoli, a'u perfformiad yn cael ei fonitro. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â phryderon ynghylch perfformiad darparwyr, er mwyn sicrhau bod darparwyr yn bodloni'r meini prawf ar gyfer eu cynnwys ar Restr Darparwyr Cymeradwy'r Cyngor, a chomisiynu...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr i gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr (UCLl) o fewn Adran Strategaeth ac Adnoddau y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Mae'r UCLl yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu rôl o ran gwella ysgolion drwy herio...

    **Amdanom ni** Mae'r is-adran Gwasanaethau Adeiladau yn darparu ystod eang o wasanaethau i gleientiaid corfforaethol a thai. Gan weithredu cyfrif masnachu, mae'r gwasanaeth yn ennill ffioedd, gan wneud ansawdd ac effeithlonrwydd yn allweddol i'r rolau yn y gwasanaeth. Gan weithio fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Amgylchedd a Gwasanaethau Tai, byddwch yn darparu...

  • Swyddog Incwm

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Os ydych chi'n hoffi gweithio gydag ystadegau, data neu os oes gennych feddwl chwilfrydig i "wasgu symiau mawr o ddata i fformat dealladwy syml", gallai'r Tîm Deallusrwydd Busnes a Datblygu Gwasanaethau (Perfformiad) fod yn waith i chi. Rydym yn darparu ystod o ddata i gynulleidfa eang gan gynnwys Lywodraeth Cymru, Uwch Reolwyr, rheolwyr...

  • Rheolwr Integredig

    1 month ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Iechyd Meddwl Lleol y Fro yn dîm amlddisgyblaethol deinamig, sy'n cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar wella ac wedi’i seilio ar ganlyniadau i bobl sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan y tîm berthnasoedd rhagorol gyda sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau sylfaenol ac arbenigol ac mae'n agored i ddatblygu'r...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Big Fresh Catering Company yn cynnig prydau ysgol maethlon iach amser cinio, sy'n cydymffurfio â'r safonau Bwyd a Maeth a bennwyd gan Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe / Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion,...

  • Rheolwr Gweithredol

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Rheolwr Gweithredol - Strategaeth a Mewnwelediad** Ydych chi'n barod ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa lle hoffech chi lunio strategaeth un o awdurdodau lleol Cymru sy'n perfformio orau a'n helpu i drawsnewid sut rydym yn defnyddio mewnwelediad i lywio ein penderfyniadau? Mae gennym gyfle anhygoel i Reolwr Gweithredol arwain un o ddau...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth bellach yn rhan o’r Adran Chynllunio dan Bennaeth Gwasanaeth sy’n atebol yn uniongyrchol i'r Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth gyffrous o waith cynllunio mewn ardal amrywiol sy'n cynnwys arfordir a chefn gwlad hardd mewn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo gyda chysylltiadau cymdeithasol ac...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r swydd o fewn yr Adran Fudd-daliadau. Mae’r tîm yn prosesu pob math o geisiadau am Fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor yn unol â phob gofyniad gweinyddol a deddfwriaethol. Rydym hefyd yn prosesu ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim a Grantiau Datblygu Disgyblion. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409...

  • Technegydd Cwricwlwm

    4 weeks ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Diolch am eich diddordeb yn y swydd bwysig hon. Mae'n bleser mawr eich cyflwyno i'n hysgol. Bwriad y wybodaeth gaeedig yw rhoi cipolwg byr ar fywyd a gwaith Ysgol y Bont-faen, er mwyn eich galluogi i benderfynu a ydych am fod yn rhan o'n tîm uchelgeisiol o bobl. Rydym yn ysgol gyd-addysgol boblogaidd a llwyddiannus iawn, wedi'i...