Cogydd Datblygu/gweithredol

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae'r Big Fresh Catering Company yn cynnig prydau ysgol maethlon iach amser cinio, sy'n cydymffurfio â'r safonau Bwyd a Maeth a bennwyd gan Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe / Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi a Bar ym Mhafiliwn Pier Penarth ar gyfer priodasau a chwsmeriaid a chwmnïau allanol.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 10, PCG £40,576 - £43,570 y flwyddyn pro rata
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 3 diwrnod - 22.5 awr yr wythnos
Prif Weithle: Amrywiol
Rheswm Dros Dro: Parhaol

**Disgrifiad**:
Mae'r Big Fresh Catering Company yn chwilio am Brif Gogydd / Cogydd Datblygu brwdfrydig a phrofiadol ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a'i wasanaeth prydau ysgol. Bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am amryw geginau tra'n datblygu a hyfforddi staff i gyflwyno ffordd arloesol a newydd o weithio yn ein ceginau. Bydd datblygu technegau paratoi bwyd ac arddangosiadau gweledol newydd yn helpu'r busnes i esblygu, a dylai’r ymgeisydd llwyddiannus gael profiad o arlwyo ar raddfa fawr os yn bosib.

**Amdanat ti**
- Y gallu i ysgogi ac ysbrydoli'r tîm a'r busnes i lefelau uwch newydd o ragoriaeth coginio
- Gallu cynllunio a threfnu’r gegin i wireddu ei llawn botensial
- Gallu rhagweld tueddiadau posibl a fydd yn dod i'r amlwg, gan ddefnyddio mewnwelediadau ar gyfer ein busnes
- O leiaf 5 mlynedd o brofiad coginio / arlwyo mewn amgylchedd prysur yn y 2 flynedd ddiwethaf Byddai profiad o brydau ysgol o fantais
- Ymrwymiad cadarn at ddarparu gwasanaeth lletygarwch / digwyddiadau o safon
- Trwydded yrru lân a’r modd i ddefnyddio cerbyd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: OES ARCHWILIAD MANWL

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: DAWN PREEN 07739 192454
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: BFC00261


  • Rheolwr Ymarferwyr

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn penodedig, y mae arnom angen rheolwr ymroddedig a galluog gyda'r profiad a'r sgiliau perthnasol i oruchwylio'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Dyma rôl newydd a datblygol sy'n gweithio i Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru (Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru) i ddatblygu a...