Rheolwr Gweithredol

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

**Rheolwr Gweithredol - Strategaeth a Mewnwelediad**

Ydych chi'n barod ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa lle hoffech chi lunio strategaeth un o awdurdodau lleol Cymru sy'n perfformio orau a'n helpu i drawsnewid sut rydym yn defnyddio mewnwelediad i lywio ein penderfyniadau?

Mae gennym gyfle anhygoel i Reolwr Gweithredol arwain un o ddau grŵp cynghori strategol newydd, gan weithio'n uniongyrchol gyda'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol i gefnogi'r gyfarwyddiaeth a'r Cyngor wrth i ni gymryd ein camau nesaf wrth drawsnewid y sefydliad. Fel Rheolwr Gweithredol - Strategaeth a Mewnwelediad, byddwch yn arwain y timau sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth ystyrlon sy'n arwain at ganlyniadau gwirioneddol i'n preswylwyr a'n cydweithwyr. Byddwch yn dod â data ac ymchwil ynghyd, ein gwybodaeth perfformiad a phŵer technoleg i helpu i'n gosod ar drywydd i wneud y penderfyniadau gorau y gallwn a rheoli ein risgiau.

Mae'r rôl hon yn arwain ar feysydd sylweddol o weithio mewn partneriaeth, gan gynnig cyfle i weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Nod y gwaith eang hwn yw gwella'r ffordd y caiff ein gwasanaethau eu dylunio a'u darparu, a sut y gellir diwallu anghenion a disgwyliadau ein preswylwyr, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yng Nghyngor Bro Morgannwg rydym yn gwerthfawrogi bod yn agored, undod, uchelgais a balchder. Mae'r rôl hon yn gyfle unigryw i ddangos eich talent i feddwl yn greadigol am broblemau cymhleth, gan dynnu timau at ei gilydd i gyflawni yn erbyn ein hamcanion a gosod yr uchelgais ar gyfer y Cyngor yr ydym am fod. Os yw hynny'n rhywbeth y byddech yn falch o fod yn rhan ohono, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dyddiad asesu (i'w gadarnhau): Dydd Iau 7 Medi 2023.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Bydd angen CV a llythyr eglurhaol ar eich cais. Cofiwch sicrhau bod eich llythyr eglurhaol yn nodi’r ffordd yr ydych yn bodloni’r meini prawf ym manyleb y person. Gellir dod o hyd i hon ym mhecyn y swydd.

Job Reference: RES00352


  • Rheolwr Ymarferwyr

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys datblygu Tîm Derbyn penodedig, y mae arnom angen rheolwr ymroddedig a galluog gyda'r profiad a'r sgiliau perthnasol i oruchwylio'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **About us** Bydd y rôl newydd hon yn rhan o dîm Ailgylchu a Gwastraff y Gwasanaethau Cymdogaeth yn sicrhau cydymffurfiaeth ar safleoedd ailgylchu a gwastraff a chynorthwyo gyda’r gwaith o fwrw targedau ailgylchu statudol, lleihau gwastraff a bod yn garbon niwtral erbyn 2030. **About the role** Manylion cyflog: Gradd 9, PCG 31-35, £37,261-...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Dyma rôl newydd a datblygol sy'n gweithio i Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru (Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru) i ddatblygu a...

  • Athro Arbenigol

    1 month ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Nam ar y Clyw Bro Morgannwg o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd wedi'i lleoli o fewn y tîm Nam ar y Clyw a byddai'n golygu gweithio ar draws Bro Morgannwg gyda disgyblion o enedigaeth i 25 oed. Fel rhan o wasanaethau allgymorth ac addysgu o fewn y Canolfannau adnoddau clyw cynradd ac...