Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd

8 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr ychwanegiad Cyflog Byw.***

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Caerdydd.

Mae ein Tîm Llinell Gynghori yn awyddus i gyflogi **Hyfforddai Corfforaethol** wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, CF10 4UW i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth ffôn i ddinasyddion Caerdydd. Mae'r Llinell Gynghori yn bwynt cyswllt cyntaf i drigolion Caerdydd ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau'r Cyngor megis: cyngor ariannol, ymholiadau'r cyngor, cyngor ar dai, addysg oedolion, prydau ysgol am ddim, i mewn i waith, gwasanaethau maethu, taliadau cymorth hunan-ynysu, cynlluniau a grantiau Llywodraeth Cymru a llawer mwy. Mae'r gwasanaeth yn brysur iawn ac yn gweithredu’n gyflym gyda thua 5,000 o alwadau y mis.

Gallai'r rôl hon gynnwys gweithio gartref a darperir offer os bydd angen gwneud hynny.

**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Hyfforddai Corfforaethol** hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
weithio’n rhan o dîm i ddarparu gwasanaeth o’r safon orau. Byddwch yn datblygu sgiliau cwsmeriaid rhagorol, sgiliau gweinyddu busnes cyffredinol, er enghraifft defnyddio Word ac Excel, ateb y ffôn, defnyddio TG bob dydd a helpu cwsmeriaid dros y ffôn gyda’u hymholiadau a datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gweinyddu busnes mewn swyddfa brysur sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Byddwch hefyd yn cefnogi cwsmeriaid dros y ffôn i hawlio budd-dal lles ar-lein a chefnogi cwsmeriaid i hunan-wasanaethu’n ddigidol lle y bo’n bosibl.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi gan ein tîm a fydd yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i weithio ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Mae’r Llinell Gynghori ar agor o 9am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Mercher a dydd Gwener, 10am i 7pm ar ddydd Iau a 9am i 5.30pm ar ddydd Sadwrn. Bydd gofyn i chi weithio yn ôl rota a bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar y penwythnos.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Hyfforddeion** Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Elisha Nicholls 02920871071

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-drose



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy’n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu...

  • Prentis Corfforaethol

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn gasgliad o wasanaethau arloesol a blaengar i blant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Rydym yn edrych i gyflogi **Crëwr...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.** **Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 neu uwch ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.** Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd am...

  • Prentis Corfforaethol

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyngor Caerdydd yw'r Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru sy'n gyfrifol am gyflawni atgyweiriadau i dros 13,000 o eiddo. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio o fewn ein gwasanaeth ac yn datblygu ystod o sgiliau yn y gweithle, gwybodaeth a phrofiad yn ein Huned Cynnal a Chadw Ymatebol yn ogystal â datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...

  • Prentis Corfforaethol

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'n ofynnol i Gyngor Caerdydd archwilio, ymchwilio, cofnodi a chymryd i ffwrdd pob achos o dipio anghyfreithlon ar y briffordd a fabwysiadwyd. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl...

  • Hyfforddai Tai

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caiff yr Hyfforddai Tai ei hyfforddi a’i fentora yn rôl y Swyddog Tenantiaeth Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith rhagweithiol a wneir yn y tîm i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu brydles, rhoi cyngor a chanllawiau yn ôl yr angen i gasglu tystiolaeth a gweithredu’n briodol o ran...

  • Hyfforddai Tai

    8 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caiff yr Hyfforddai Tai ei hyfforddi a’i fentora yn rôl y Swyddog Tenantiaeth Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith rhagweithiol a wneir yn y tîm i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu brydles, rhoi cyngor a chanllawiau yn ôl yr angen i gasglu tystiolaeth a gweithredu’n briodol o ran...

  • Prentis Corfforaethol

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae ein Timau Awdurdod yr Harbwr a Pharc Bute yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY a Chanolfan Addysg Parc Bute, CF10 3DX i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel Curadur y Castell. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Mae rôl Curadur y Castell yn swydd allweddol o ran sicrhau bod casgliad, caffaeliadau...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cyngor CaerdyddCardiff Council Full time

    About the OpportunityCyngor Caerdydd/Cardiff Council is seeking a Corporate Apprentice to join its Traffic Regulation Order & Parking Team. As a Corporate Apprentice, you will have the opportunity to learn and develop skills in traffic regulation order and on-street parking related schemes within the city.Key ResponsibilitiesScheme design: Assist in...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cyngor CaerdyddCardiff Council Full time

    Job DescriptionAs an Arborist with Cyngor Caerdydd, you will be part of a dedicated team responsible for tree maintenance operations, including planting, pruning, and felling. The successful candidate will also provide emergency services and participate in regular assessments to ensure adherence to safety protocols and quality standards.

  • Culinary Team Lead

    4 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cyngor CaerdyddCardiff Council Full time

    Job OverviewCyngor Caerdydd/Cardiff Council is seeking a skilled and adaptable individual to fill the role of Cook in Charge, responsible for managing all aspects of their business and service activities. This part-time position requires flexibility, with 30 hours worked per week over 39 weeks.


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cyngor CaerdyddCardiff Council Full time

    We are seeking an experienced Occupational Therapist to join our Independent Living Services team at Cyngor Caerdydd/Cardiff Council. As an Occupational Therapist, you will work closely with service users and carers to assess their needs and develop strategies to support their independence. This may involve providing equipment and major adaptations, as well...