Hyfforddai Tai
5 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Caiff yr Hyfforddai Tai ei hyfforddi a’i fentora yn rôl y Swyddog Tenantiaeth Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith rhagweithiol a wneir yn y tîm i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu brydles, rhoi cyngor a chanllawiau yn ôl yr angen i gasglu tystiolaeth a gweithredu’n briodol o ran torri amodau tenantiaeth, a hefyd gwrthdaro rhwng tenant a landlord. Gan gynnwys cynorthwyo’r Swyddog Arweiniol yn y llys ac ar faterion troi allan
**Am Y Swydd**
Nid oes angen cymwysterau na phrofiad ffurfiol, ond bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da a bydd yn gallu dysgu ac addasu’n gyflym. Mae agwedd gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio i dargedau a therfynau amser. Byddai gwybodaeth am ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais. Byddai profiad o ddefnyddio systemau TG hefyd yn fanteisiol. Mae llawer o wahanol yrfaoedd ar gael o fewn y Cyngor sy’n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfaol da. Mae trefniadau gweithio hyblyg hefyd ar gael. Nid oes unrhyw sicrwydd y cewch swydd ar ddiwedd y cynllun hyfforddi 18 mis, fodd bynnag rhoddir cyngor i’r sawl sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus o ran sut i wneud ceisiadau am swyddi priodol o fewn y gwasanaeth.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Nid oes angen cymwysterau na phrofiad ffurfiol, ond bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da a bydd yn gallu dysgu ac addasu’n gyflym. Mae agwedd gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio i dargedau a therfynau amser. Byddai gwybodaeth am ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais. Byddai profiad o ddefnyddio systemau TG hefyd yn fanteisiol. Mae llawer o wahanol yrfaoedd ar gael o fewn y Cyngor sy’n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfaol da. Mae trefniadau gweithio hyblyg hefyd ar gael. Nid oes unrhyw sicrwydd y cewch swydd ar ddiwedd y cynllun hyfforddi 18 mis, fodd bynnag rhoddir cyngor i’r sawl sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus o ran sut i wneud ceisiadau am swyddi priodol o fewn y gwasanaeth
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd dros dro am gyfnod o 18 mis.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
I gael sgwrs anffurfiol, wedi darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person, cysylltwch â Stuart Clarke (029) 2053 7563 neu Abdi Ahmed (029) 2053 7562 Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03917
-
Hyfforddai Corfforaethol
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...