Hyfforddai Corfforaethol

5 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Caerdydd.

Mae ein Tîm Cyfranogiad Tenantiaid yn awyddus i gyflogi Hyfforddai Corfforaethol wedi’i leoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, Yr Aes, Caerdydd CF10 1FL, gyda gofyniad i weithio o hybiau eraill yn y ddinas yn ôl yr angen.

**Cyfranogiad Tenantiaid yw'r cysylltiad rhwng tenantiaid y cyngor a gwasanaethau'r cyngor. Maen nhw’n rhoi cymorth a chefnogaeth i breswylwyr gael help gyda**:
**Chredyd Cynhwysol, Budd-daliadau Lles, y Dreth Gyngor, Tai, Tocynnau bws i’r henoed a’r anabl, Prydau Ysgol Am Ddim, Addysg, ac Archebion gwastraff swmpus, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys darpariaeth llyfrgell a digwyddiadau’r Hybiau Cymunedol.**:
**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Hyfforddai **Corfforaethol byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
weithio fel rhan o dîm i ddarparu gwasanaeth o’r safon orau. Byddwch yn datblygu sgiliau gweinyddu swyddfa cyffredinol, e.e. defnyddio Microsoft Word ac Excel, ateb y ffôn, defnyddio TG bob dydd, helpu cwsmeriaid gyda’u hymholiadau a datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid arbennig. Byddwch yn helpu i sefydlu a rhedeg digwyddiadau a grwpiau cymunedol.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi gan ein tîm a fydd yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y csmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i weithio ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, gyda gofyniad i weithio o Hybiau eraill ar draws y ddinas yn ôl yr angen. Sylwch y gallai fod angen gwneud rhywfaint o waith ar benwythnosau mewn amgylchiadau prin.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Hyfforddeion** Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Dyma swydd dros dro am 6 mis os caiff ei gweithio'n llawn amser neu'n hirach os caiff ei gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser.

Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £10.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran **Gwybodaeth Ategol**, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais ac ewch i.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol Mae Tîm Canolfan Ieuenctid Butetown y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi **Hyfforddai Corfforaethol**: - Gweithiwr Ieuenctid i weithio yng Nghanolfan Ieuenctid Butetown Pavilion, Dumballs Road, Butetown, CF10 5FE, i gyfrannu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr ychwanegiad Cyflog Byw.*** Mae Cyngor Caerdydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...