Tiwtor Cyswllt mewn Celf Gêm

5 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

Os oes gennych gofnod o gyflawniad sy'n dangos yr ymrwymiad, y doniau a'r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang drwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd rhagorol, ynghyd ag angerdd cyffredin am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau, ac i'w cefnogi.
Rydym yn recriwtio ar gyfer Tiwtoriaid Cyswllt eithriadol, â chymwysterau addas, sydd ar gael i addysgu ym maes Celf Gemau yn achlysurol neu'n sesiynol. Mae'n hanfodol bod gennych ddealltwriaeth sylweddol o natur academaidd a/neu broffesiynol eich pwnc ac y gallwch gyfleu hyn yn eglur, â manyldeb academaidd a brwdfrydedd.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cael dogfennau perthnasol y cwrs, a bod yn gyfarwydd â nhw, sy'n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â nodau a gweithrediad y cwrs, gan gynnwys y maes llafur, dulliau asesu, y dulliau addysgu a ffefrir, gwybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr, dyddiadau ac amseroedd y cwrs, ac ati.
Cysylltu ag aelodau o dîm y rhaglen, fel y bo'n briodol, er mwyn deall gofynion, cydlynu cynlluniau a chamau gweinyddol ac i drafod newidiadau.
Paratoi deunydd cwrs effeithiol a fydd yn cyflawni nodau'r cwrs, gan gynnwys
gwella'r profiad dysgu trwy ddull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
Mynychu a chyflwyno sesiynau fel y cytunwyd arnynt, darlithio, arwain trafodaethau ac, fel arall, darparu arweiniad a chyngor, a hyrwyddo dysgu, yn ôl yr angen.
Paratoi a marcio unrhyw waith ysgrifenedig, gwaith stiwdio, gwaith dosbarth a phapurau arholiad cysylltiedig yn ôl yr angen, yn unol â’r gweithdrefnau asesu priodol.
Rhoi adborth adeiladol ac amserol i fyfyrwyr ar eu cynnydd.
Cadw’r cofnodion o asesiadau a phresenoldeb hynny sydd eu hangen ar y
Brifysgol.
Cadw at amseroedd agor a chau dosbarthiadau yn llym.
Sicrhau bod Cyfarwyddwr/Arweinydd y Rhaglen a'r dosbarth yn cael gwybod am eich absenoldeb, lle nad oes modd osgoi hyn, mor bell o flaen llaw â phosibl.
Darparu cynllun cwrs/gwaith, set o amcanion a rhestrau darllen i fyfyrwyr lle bo hynny'n briodol.
Beth rydym yn chwilio amdano
Gradd anrhydedd dda a/neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.
Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch.
Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol Celf Gêm.
Tystiolaeth o ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
Dealltwriaeth eang o faes y pwnc.
Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
Y gallu i gyflawni dyletswyddau gweinyddol mewn modd cywir ac amserol.
Y gallu i gynllunio llwythi gwaith.
Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau, adroddiadau, deunyddiau dysgu.
Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gweithio cynhyrchiol fel rhan o dîm proffesiynol.
Y gallu i ddangos ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch a Safonau Ansawdd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Sarah Smith, Pennaeth yr Adran ar smsmith@cardiffmet.ac.uk neu mae croeso i chi e-bostio Aleksandra Janusiewicz, y Cynghorydd Recriwtio sy'n cefnogi'r swydd wag hon ar ajanusiewicz2@cardiffmet.ac.uk.
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 05 Jan 2026
Ysgol/Uned: Academaidd
Cyflog: £45,413 to £51,039 £47.08 y sesiwn yn ogystal â 18% tâl gwyliau
Achlysurol



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Os oes gennych gofnod o gyflawniad sy'n dangos yr ymrwymiad, y doniau a'r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang drwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd rhagorol, ynghyd ag angerdd cyffredin am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn helpu i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru – Museum Wales Full time £35,002 - £39,880 per year

    Uwch Gadwraethwr Papur CELF, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd / CELF Senior paper Conservator, National Museum CardiffGradd / Grade E - £35,002.32 to £39,879.82Oriau / Hours - 35Math o swydd wag - Dros Dro / Llawn AmserVacancy Type - Fixed-Term / Full TimeCliciwch ar y ddolen i wneud cais - CymraegClick on link to apply - EnglishBydd gan Uwch Gadwraethwr...

  • Swyddog Cyswllt Lles

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae swydd barhaol wedi dod ar gael gyda'r Tîm Cyswllt Lles.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol ymuno â'r Tîm Cyswllt Lles, gan ddarparu gwasanaeth budd-dal lles wyneb yn wyneb proffesiynol a chynghori ariannol i denantiaid Cyngor Caerdydd. Mewn ymateb i Covid-19, mae gwaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Drwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau’r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom WRU - Welsh Rugby Union Full time £25,000 - £35,000 per year

    To design, develop, and implement high-quality learning and development resources and content that enables and supports skilled, confident, and sustainable community rugby coaching and match officials, from under 7s to adult rugby within Wales.This role underpins the delivery of the WRU's Community Coaching and Match Officiating Strategy , with national...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau’r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os...