Uwch Swyddog Datblygu Cymunedol
7 days ago
**Amdanom ni**
Mae gan y tîm Cymunedau Creadigol dri phrif faes gwaith craidd;
1. Datblygu Lleol a Arweinir gan y Gymuned
2. Rheoli Cronfeydd Allanol
3. Rheoli Cronfeydd Mewnol
Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau a sefydliadau yn eu dyheadau a'u hannog i fod yn uchelgeisiol ac wedi'u grymuso, tra'n cefnogi uchelgais y Cyngor.
Mae'r tîm yn un o'r timau Adfywio o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, mae ffocws yr adrannau Adfywio yn amrywio o Adfywio Economaidd, adeiladu ar asedau, twf a chyflogaeth, i Adfywio Cymdeithasol a Diwylliannol, canolbwyntio ar les, y celfyddydau a diwylliant a bywyd cymunedol, i Adfywio'r Amgylchedd gan gynnwys rheoli mannau gwyrdd, cynefinoedd ac
adnewyddu tir.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 9, PCG 31-35, £35,336 - £39,571
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 Awr yr wythnos yn seiliedig ar batrwm Gweithio
Hyblyg
Prif Weithle: Y Bont-faen / Barri/ Gweithio gartref
Contract Parhaol
Hyrwyddo, cyflawni a hwyluso adfywiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Bro Morgannwg Wledig gan ganolbwyntio ar ddatblygiad cymunedol sy'n seiliedig ar asedau, cefnogi cymunedau yn eu dyheadau, gan eu hannog i fod yn uchelgeisiol ac wedi’u grymuso, tra'n cefnogi uchelgais y Cyngor.
**Amdanat ti**
Rydym yn chwilio am gyfathrebwr cydwybodol a hyderus, gyda phrofiad hwyluso a'r gallu i feithrin ac annog cyfranogiad i gyd-gynhyrchu atebion. Rhaid bod gennych brofiad sylweddol o weithio yn rhan o ddull amlasiantaethol i gyflawni nodau adfywio gyda hanes o fwrw targedau’n llwyddiannus. Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn hunanysgogol a meddu ar safonau uchel o ran uniondeb personol a chyhoeddus. Rhaid i chi allu trefnu llwyth gwaith personol yn effeithiol, i gwrdd â therfynau amser, a gweithio’n dda dan bwysau, wrth gynnal safonau ansawdd uchel. Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Dim
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Nicola Sumner-Smith Swyddog Datblygu
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: RES00261
-
Uwch Gynlluniwr
7 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn chwilio am gynllunydd brwdfrydig a gwybodus i ymuno â'n tîm cynllunio fel yr Uwch Gynllunydd (Cyfraniadau Datblygu) newydd. Mae Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth gyffrous o waith cynllunio mewn ardal amrywiol sy'n cynnwys arfordir a chefn gwlad hardd mewn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo gyda chysylltiadau cymdeithasol ac...
-
Swyddog Datblygu Addysg- Dysgu Cymraeg y Fro
7 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu Addysg newydd i...
-
Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr
7 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr i gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr (UCLl) o fewn Adran Strategaeth ac Adnoddau y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Mae'r UCLl yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu rôl o ran gwella ysgolion drwy herio...
-
Swyddog Cymorth Busnes
7 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes yn ein hadran Rheoli Datblygu (Cynllunio) sydd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 4, PCG 5 - 7,...
-
Uwch Swyddog Gofal Dydd
1 week ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...
-
Uwch Swyddog Gofal Dydd
2 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...
-
Swyddog Incwm
1 week ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...
-
Swyddog Cyllid a Monitro Adfywio
1 week ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae gan y tîm Cymunedau Creadigol dri phrif faes gwaith craidd; 1. Datblygu Lleol a Arweinir gan y Gymuned 2. Rheoli Cronfeydd Allanol 3. Rheoli Cronfeydd Mewnol Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau a sefydliadau yn eu dyheadau a'u hannog i fod yn uchelgeisiol ac wedi'u grymuso, tra'n cefnogi uchelgais y Cyngor. Mae'r tîm yn un o'r...
-
Swyddog Pontio Atgyfeiriadau Ymarfer Corff
2 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Bydd y swydd hon yn rhan o adran Atgyfeiriadau Ymarfer Corff y Tîm Byw'n Iach. Mae'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff yn helpu unigolion â phroblemau iechyd i ddod yn fwy actif. Mae'r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r preswylwyr sydd â chyflyrau meddygol penodol i gael eu hatgyfeirio i'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer...
-
Swyddog Cymorth Technegol
7 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r swyddi uchod ar gael o fewn Adran Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg sy'n cynnwys gwasanaethau cydgysylltiedig Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth, Peirianneg a Thrafnidiaeth. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnwys gweithrediadau rheng flaen sylweddol a blaenllaw sy'n cyflawni swyddogaethau amrywiol yn uniongyrchol i...