Swyddog Pontio Atgyfeiriadau Ymarfer Corff

7 days ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Bydd y swydd hon yn rhan o adran Atgyfeiriadau Ymarfer Corff y Tîm Byw'n Iach. Mae'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff yn helpu unigolion â phroblemau iechyd i ddod yn fwy actif. Mae'r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r preswylwyr sydd â chyflyrau meddygol penodol i gael eu hatgyfeirio i'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff gan eu meddygon i wella eu ffordd o fyw drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409 - £27,852

Oriau gwaith / patrwm gweithio: 37 awr yr wythnos i gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ôl y gofyn

Prif Weithle: Bydd y swyddfa yn y Barri ond bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio mewn amryw leoliadau ar draws y Fro

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Ariennir y swydd hon drwy gyllid allanol a gadarnhawyd tan 31/3/23

**Disgrifiad**:
Prif swyddogaeth y rôl fydd datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer cyfranogwyr sy'n gadael y Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Cenedlaethol i gyfleoedd gweithgareddau corfforol cymunedol. Bydd gofyn i chi sefydlu a chynnal cysylltiadau rhwng grwpiau gweithgareddau corfforol cymunedol ac yna nodi a chefnogi cleientiaid wrth iddynt drosglwyddo o ddosbarthiadau atgyfeiriadau ymarfer corff i ddarpariaeth yn y gymuned i sicrhau cyfranogiad parhaus. Byddwch yn cynorthwyo i werthuso a chasglu data sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn gan ymgymryd ag olrhain astudiaethau achos i fesur effaith hirdymor. Byddwch hefyd yn archwilio nifer y cleientiaid sy’n gadael y cynllun a’u cyfeirio at gyfleoedd amgen lle bo'n briodol. Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys cynnig amrywiaeth o weithgareddau corfforol o safon uchel i unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio i’r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff sy’n flaengar ac yn adlewyrchu anghenion y cleientiaid.

**Amdanat ti**

Bydd angen:

- Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned i ddatblygu a chynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol.
- Profiad o gydlynu, datblygu a chynllunio gweithgareddau corfforol o fewn ystod eang o amgylcheddau gan gynnwys lleoliadau cymunedol
- Profiad o reoli projectau gan gynnwys ysgrifennu, monitro a gwerthuso cynlluniau projectau
- 2 flynedd o brofiad mewn amgylchedd iechyd a ffitrwydd, gan gynnwys cyflwyno a chynnig gwasanaethau iechyd a ffitrwydd i’r cyhoedd
- Profiad o gynnal sesiynau grŵp
- Cymhwyster Gwaith Grŵp / Campfa Lefel 2
- Cymhwyster Hyfforddwr Uwch Lefel 3
- Cymhwyster Atgyfeirio Ymarfer Corff Lefel 3 neu’n gweithio tuag ato
- Cymhwyster Lefel 4 neu’n gweithio tuag ato
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf
- Aelod o’r Gofrestr Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol
- Dealltwriaeth o'r rhwystrau i gymryd rhan a'r gallu i edrych ar syniadau arloesol i'w goresgyn
- Gwybodaeth ardderchog am brofi ymarferion ffitrwydd a rhoi cynlluniau ymarfer corff i gleientiaid sy’n cael atgyfeiriad ymarfer corff.
- Gwybodaeth am gyflwyno sesiynau ymarfer corff i gleientiaid â gallu gwahanol a phrofiad o raddio ymarfer corff i weddu i unigolion.
- Y gallu i feithrin perthnasau â sefydliadau partner a grwpiau cymunedol
- Profiad o gynnig cyfarwyddyd ffitrwydd a theilwra rhaglenni i gleientiaid

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Gallu gweithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol
- Parodrwydd i weithio mewn gwahanol leoliadau

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00384



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Bydd y swydd hon yn rhan o adran Atgyfeiriadau Ymarfer Corff y Tîm Byw'n Iach. Mae'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff yn helpu unigolion â phroblemau iechyd i ddod yn fwy actif. Mae'r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r preswylwyr sydd â chyflyrau meddygol penodol i gael eu hatgyfeirio i'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...

  • Swyddog Adolygu

    2 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau wrth wneud Gwaith Cymdeithasol? Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru? Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n Mae gennym gyfle i Swyddog Adolygu yn y Tîm...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r gwasanaeth Niwrowahaniaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r naethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwrowahaniaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) a Syndrom Tourette sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd...

  • Rheolwr Ymarferwyr

    5 days ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaethau Plant Bro Morgannwg wrth i ni ehangu ein gweithlu i ateb galw cynyddol am ein gwasanaethau. Felly, rydym...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Grwpiau sy’n Agored i Niwed (TGAiN) yn herio ac yn cefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol eraill. Cyflwynir hyn drwy gyngor, hyfforddiant a chymorth a dargedir. Mae'r TGAiN yn cydlynu, yn cyfeirio, yn uwchsgilio, yn darparu ac yn sicrhau gwasanaethau i ddysgwyr sy'n agored i niwed i fynd i'r afael â'r hyn sy’n eu gwneud yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ar draws Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion cymeradwy. Arolygiaeth Gofal Cymru ydy rheoleiddiwr y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn...