Uwch Gynlluniwr
7 days ago
**Amdanom ni**
Rydym yn chwilio am gynllunydd brwdfrydig a gwybodus i ymuno â'n tîm cynllunio fel yr Uwch Gynllunydd (Cyfraniadau Datblygu) newydd. Mae Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth gyffrous o waith cynllunio mewn ardal amrywiol sy'n cynnwys arfordir a chefn gwlad hardd mewn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo gyda chysylltiadau cymdeithasol ac economaidd cryf â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ehangach.
Rydym yn chwilio am gynllunydd gweithgar ac ymroddedig a fydd yn rhoi o'u gorau ac yn gyfnewid am hynny rydym yn cynnig gweithio hyblyg gyda chymysgedd o waith swyddfa a chartref, cyflog hael ac amgylchedd gwaith gwych gyda strwythur rheoli cefnogol sy'n annog gwaith annibynnol ac yn meithrin talent.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 9 PGC 31 - 35 £35,336 - £39,571
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos (Llun-Gwe)
Prif Waith: Swyddfa’r Dociau
**Disgrifiad**:
Cynorthwyo swyddog arweiniol y gwasanaeth ar bob mater sy'n ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio, Ardoll Seilwaith Cymunedol a chyfraniadau datblygwyr a chydlynu a rheoli'r holl faterion sy'n ymwneud â chytundebau cyfreithiol Ardoll Seilwaith Cymunedol a chyfraniadau datblygwyr.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Gwybodaeth ymarferol o’r system gynllunio.
- Addysg i lefel gradd mewn disgyblaeth berthnasol.
- Cymhwyster ôl-radd perthnasol mewn cynllunio neu Yn gymwys i fod yn Aelod o’r RTPI.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Ian Robinson
01446 704777
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: RES00249