Peiriannydd (Polisi Parcio)
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y tîm Polisi a Strategaeth Parcio.
Rydym yn cydnabod bod ein dull o ymdrin â pholisi parcio a rheolaeth ymyl y ffordd yn effeithio ar brofiad pawb o Gaerdydd. Fel Peiriannydd Polisi Parcio, byddwch yn flaenllaw wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth parcio ar gyfer y ddinas.
O fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i wneud y briffordd yn werddach, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, mae'r rôl hon yn ymwneud â chadw Caerdydd i symud a chydbwyso buddiannau preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, wrth ystyried effaith y newidiadau a wnawn heddiw ar y ddinas yn y dyfodol.
**Am Y Swydd**
Byddwch wrth wraidd penderfyniadau ar sut rydym yn rheoli'r galw am barcio i wneud ein ffyrdd yn wyrddach, yn fwy diogel ac yn decach. Bydd hyn yn golygu penderfynu pwy all barcio ble a phryd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy'r Cyngor.
Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
- Rheoli a chydlynu’r gwaith o gynllunio a gweithredu prosiectau parcio a gorchmynion rheoli traffig. Gall prosiectau o'r fath gynnwys cyflwyno cynlluniau parcio trwyddedau preswylwyr, parthau parcio bach i ganolig, a rhai cynlluniau symud traffig lle bo hynny'n briodol.
- Rheoli a chydlynu prosiectau ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghori â'r cyhoedd a gweithgareddau hyrwyddo i helpu i gyflawni prosiectau parcio
- Cynorthwyo arweinydd y Tîm Polisi a Strategaeth Parcio wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau parcio newydd; hyrwyddo gwelliannau mewn diogelwch, hygyrchedd a pherfformiad amgylcheddol, a sicrhau bod y cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn
- Ateb ymholiadau gan y cyhoedd, aelodau, cydweithwyr ac eraill ynglŷn ag amrywiaeth o faterion parcio
- Casglu a dadansoddi data a llunio adroddiadau i gefnogi'r gwaith o gyflawni cynlluniau parcio a newidiadau polisi
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae’r rôl ar gyfer unigolyn brwdfrydig sy’n gallu dangos ei fod yn meddu ar y gofynion a’r profiad a nodir yn y Fanyleb Person.
Rydym yn chwilio am berson diwyd a llawn cymhelliant sy’n gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da i ymuno â’n tîm.
Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am ddylunio a chyflawni cynlluniau parcio a phroses Gorchmynion Rheoli Traffig.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PLA00339
-
Prif Gyfreithiwr Cymuned
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...
-
Cardiff, United Kingdom Welsh Rugby Union Group Full timeTo coordinate and assist all administrative aspects of the Rugby Operations department. To also act as a service provider for all enquires received in relation to Community Game Regulatory & Competitions department. Closing Date: 14December 2025 Salary: £23,000 per annum Location: Principality Stadium, Cardiff with some requirements at WRU National Centre...
-
Group Ticketing Manager
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Welsh Rugby Union Group Full timeThe role will lead on WRU ticket and customer relationship management for closed groups including debenture, premium supporter and club ticketing programmes. This role will create and execute associated growth and activation strategies within these close groups. Closing Date: 16 December 2025 Salary: £32,000-£36,000 per annum Location: WRU Ticket Office,...
-
Group Ticketing Manager
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom WRU - Welsh Rugby Union Full timeThe role will lead on WRU ticket and customer relationship management for closed groups including debenture, premium supporter and club ticketing programmes. This role will create and execute associated growth and activation strategies within these closed groups. Closing Date: 16 December 2025 Salary: £32,000-£36,000 per annum Location: WRU Ticket Office,...
-
Procurement Analyst
1 week ago
Cardiff, United Kingdom The Welsh Rugby Union Full timeTo provide high-quality analytical and strategic support across WRU's procurement activity, enabling value-driven decision making, supplier performance insight, and effective sourcing and contracting in support of WRU's long-term procurement transformation and cost efficiency goals.Salary: £30,000 per annum Closing Date: 9th December 2025Location:...
-
Marketing Assistant
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Wales Millennium Centre Full timeWe are Wales Millennium Centre - Fire for the ImaginationRole Title: Marketing AssistantSalary: 23,296 paHours of Work: 35 hours per weekType of Contract: Fixed Term 6-month contractWales Millennium Centre is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring...
-
Coleg Llandrillo Assistant Coach
1 week ago
Cardiff CF NS, United Kingdom Welsh Rugby Union Full time £19,320 - £26,640 per yearThis is an exciting opportunity to work with some of the best up and coming rugby players in the North Wales Region. As an official partner of RGC, Coleg Llandrillo plays a key role in centralising, educating, and developing many of the best North Wales rugby players through the Talent Development phase of the pathway.The Coleg Llandrillo Rugby Programme...
-
Rugby Operations Administrator
2 weeks ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Welsh Rugby Union Full time £23,000 per yearTo coordinate and assist all administrative aspects of the Rugby Operations department.To also act as a service provider for all enquires received in relation to Community Game Regulatory & Competitions department.Closing Date: 14 December 2025Salary: £23,000 per annum Location: Principality Stadium, Cardiff with some requirements at WRU National Centre...
-
Marketing Manager
1 week ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Canolfan Mileniwm Cymru | Wales Millennium Centre Full time £32,460 - £33,060 per yearNi yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i'r dychymygTeitl y Rôl:Rheolwr MarchnataCyflog:£31,405 y flwyddynOriau Gwaith:35 awr yr wythnosMath o Gytundeb:ParhaolDyddiad Cau:08/01/26Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i'r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i'r genedl. Rydyn ni'n tanio'r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn...
-
Procurement Manager
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Welsh Rugby Union Full timeTo lead and deliver best-in-class category management, sourcing and supplier relationship management across WRU and the four Regions, driving both cost savings and strategic value. The Procurement Manager will help embed a new procurement function that delivers commercial excellence, drives continuous improvement, and supports Welsh Rugby's long-term...