Swyddog Cyfathrebu Marchnata

3 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r**ô**l**:
Gweithio gyda’r Tîm Marchnata a Derbyn i sicrhau bod y Coleg yn manteisio i’r eithaf ar recriwtio dysgwyr trwy ymgymryd ag ystod eang o weithgarwch cyfathrebu marchnata.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymgyrchoedd cyfathrebu marchnata gan ddefnyddio platfformau all-lein a digidol.
- Llawn Amser - 37 Awr
- Cyfnod Penodol
- £28,357.00 - £30,277.00
- TyCoch, SA2 9EB

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Datblygu, gweithredu a gwerthuso ystod eang o weithgareddau marchnata ar gyfer cynulleidfaoedd targed allweddol y Coleg, er mwyn cyflawni targedau recriwtio drwy ddulliau all-lein a digidol.
- Datblygu, gweithredu a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata i hwyluso cyfnodau allweddol y flwyddyn academaidd e.e. nosweithiau agored, gweithgareddau recriwtio ac ymgyrchoedd tymhorol.
- Cynllunio, cydlynu a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau rhanddeiliaid, gan gynnwys nosweithiau agored, seremonïau gwobrwyo a graddio yn ogystal â digwyddiadau sy’n adlewyrchu cyflawniadau dysgwyr Safon Uwch/TGAU.
- Gweithio â Dylunydd graffeg i greu deunydd marchnata, gan gynnwys asedau digidol.

**Amdanoch chi**:

- Gradd neu gymhwyster cyfwerth.
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn Marchnata/Cysylltiadau Cyhoeddus neu brofiad cyfatebol.
- Profiad o gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu marchnata integredig.
- Hanes o greu deunyddiau marchnata ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.

**Buddion**:

- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun gweithio hyblyg
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).



  • Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Ymgeiswyr mewnol** Mae Tîm Profiad Myfyrwyr y Dyfodol Prifysgol Abertawe yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gwasanaeth cyfathrebu ac ymholiadau o safon ar gyfer cynulleidfaoedd o ddarpar fyfyrwyr, gan greu diwylliant ymatebol a ysgogir gan brofiad cwsmeriaid, o ymwybyddiaeth gynnar i gofrestru/sefydlu a'r tu hwnt. Rydym am benodi Ymgynghorydd Cyfathrebu...


  • Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Manyleb Person** Cymwysterau**: - Addysg i lefel Safon Uwch gyda phrofiad gwaith perthnasol. **Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau**: - Rhuglder yn yr iaith Gymraeg at safon uchel. - Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda'r gallu i gyfleu syniadau'n gryno ac yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd drwy gyfryngau gwahanol. - Profiad o...

  • Swyddog Recriwtio

    1 month ago


    Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...


  • Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Manyleb Person** Cymwysterau**: Addysg hyd at Safon Uwch (neu gyfwerth), neu brofiad perthnasol sylweddol eraill mewn rôl debyg **Profiad**: - Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid gyda'r gallu i gynghori ar faterion proses a chydymffurfiaeth, gan ddefnyddio diplomyddiaeth a doethineb lle bo angen, i gynnig cymorth wrth fynd i'r afael â materion a'u...