Ymgynghorydd Cyfathrebu

2 months ago


Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

**Ymgeiswyr mewnol**
Mae Tîm Profiad Myfyrwyr y Dyfodol Prifysgol Abertawe yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gwasanaeth cyfathrebu ac ymholiadau o safon ar gyfer cynulleidfaoedd o ddarpar fyfyrwyr, gan greu diwylliant ymatebol a ysgogir gan brofiad cwsmeriaid, o ymwybyddiaeth gynnar i gofrestru/sefydlu a'r tu hwnt.

Rydym am benodi Ymgynghorydd Cyfathrebu brwdfrydig a rhagweithiol i chwarae rhan hanfodol yn Nhîm Profiad Myfyrwyr y Dyfodol, yn gyfrifol am gydlynu a darparu cyfathrebu i fyfyrwyr y dyfodol, wrth gefnogi'r gwaith parhaus o ddatblygu gweithgareddau systemau CRM ac awtomeiddio marchnata.

Bydd yn atebol i Bennaeth Profiad Myfyrwyr y Dyfodol, yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws pob maes o ran swyddogaethau Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol y Brifysgol, ac yn meithrin gwybodaeth ymarferol ragorol am anghenion a chymhellion y darpar gynulleidfa drwy'r gwahanol gamau wrth gyflwyno cais. Mae sylw i fanylion a sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ardderchog yn bwysig ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â'r gallu i weithio'n effeithiol gydag amrywiaeth o systemau a meddalwedd mewn amgylchedd tîm prysur.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

I gyflwyno cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein a rhoi enghreifftiau allweddol o sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person.

Dyddiad y cyfweliadau: 25 Mai 2023

**Ymgeiswyr mewnol**:

- Bydd angen i aelodau staff cyfredol Prifysgol Abertawe sydd am gyflwyno cais am swydd cyfnod penodol yn y Brifysgol gael cymeradwyaeth eu rheolwr llinell a chyflwyno ffurflen cais am secondiad â llofnod cyn cyflwyno cais ar gyfer y rôl hon. _
- Mae manylion a'r ffurflen cais am secondiad i'w gweld ym Mholisi Secondiad y Brifysgol. Ewch i'r. _Polisi Secondiad_
- Dylid lanlwytho'r ffurflen cais am secondiad ynghyd â'ch CV i'r system recriwtio. Ni fydd y cais yn cael ei asesu heb gyflwyno'r ffurflen gymeradwyaeth. Caiff eich cais am y rôl hon ei adolygu'n unol â gweithdrefnau recriwtio Prifysgol Abertawe. _
- Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â'ch Partner Busnes AD_

Job Reference: SD03091