Swyddog Recriwtio

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r**ô**l**:
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Swyddog Recriwtio brwdfrydig a pheniog i gefnogi ei adran Adnoddau Dynol prysur.
- ** Amser Llawn (37 awr y wythnos)**:

- ** Parhaol**:

- ** £25,264 - £27,457 y flywddyn**:

- ** Hill House campws**

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Gan gydweithio’n agos ag Uwch Ymgynghorwyr AD a rheolwyr llinell, byddwch yn darparu gweinyddiaeth adnoddau dynol i feysydd dynodedig o fewn y Coleg
- Prosesi dogfennau’r gyflogres gan gynnwys diweddaru manylion cronfa ddata’r AD a chwblhau ffurflenni’r gyflogres
- Cynhyrchu holl gyfatebiaeth safonol yr Adnoddau Dynol gan gynnwys llythyron penodi, contractau, diwygiadau contractiol a llythyron cadarnhau ymddiswyddiadau
- Cynorthwyo a chefnogi’r tîm AD gyda phrosiectau AD sydd wedi’u dylanwadu gan nodau strategol yr Adran a’r Coleg

**Amdanoch chi**:

- Rhaid ichi feddu ar brofiad blaenorol o weithio mewn swyddfa a byddai profiad blaenorol o’r Adnoddau Dynol
- 5 cymhwyster TGAU (gradd A-C)
- Lefel 5 mewn pwnc perthnasol
- Profiad o reoli eich llwyth gwaith eich hun a defnyddio eich menter
- Mae’n rhaid bod gennych sgiliau TG ardderchog a llygad craff am fanylder
- Byddwch yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cadarn, yn ogystal â bod yn hyderus wrth ddelio â phobl a bod yn eich gwaith o dan bwysau terfynau amser

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- isgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...