Education Outreach Officer

4 weeks ago


Powys, United Kingdom size of wales Full time

**Swyddog Allgymorth Addysg (Gogledd Cymru)**

**Manylion y Contract**

**Lleoliad**:Gweithio o gartref yng Ngogledd/Canol Cymru a bydd angen i ddeiliad y swydd deithio’n rheolaidd i ysgolion yn Ceredigion, Gwynedd a powys.

**Contract ac oriau**:Rhan-amser 2 diwrnod yr wythnos (40% cyfwerth ag amser llawn - tua 16 awr yr wythnos gan gynnwys seibiannau cinio yn seiliedig ar batrwm gwaith). Contract parhaol yn amodol ar adnewyddu cyllid. Mae gan Maint Cymru bolisi gweithio hyblyg a TOIL.

**Pensiwn**:Mae Maint Cymru yn cynnig cyfraniad pensiwn o 6%.

**Gwyliau blynyddol**:22 diwrnod a gwyliau’r banc (pro rata), yn codi i 27 diwrnod a gwyliau’r banc (pro rata) ar ôl blwyddyn

**Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio**:Dydd Llun 24ain o Orffennaf hanner dydd

**Ynghylch Maint Cymru**

Mae Maint Cymru yn elusen sy’n gwneud Cymru yn rhan o’r ateb byd-eang mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Defnyddiwyd “maint Cymru” fel uned fesur am ddegawdau, ar gyfer dinistrio ein cynefinoedd naturiol mwyaf gwerthfawr, ond rydym wedi dod â'n cenedl at ei gilydd i droi hyn ar ei phen ers 2010.

Gyda’n gilydd, rydym yn:
(i) gweithio gyda chymunedau brodorol a lleol ar draws y byd i ddiogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol - ardal o _faint Cymru_ - ac yn tyfu miliynau o goed.
(ii) addysgu ac ysbrydoli pobl yng Nghymru i gydnabod rôl hanfodol coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a sut mae’n rhaid i ni gefnogi cymunedau brodorol a lleol i ddiogelu’r hinsawdd, bioamrywiaeth a bywoliaethau.
(iii) ymgyrchu i sbarduno newid mewn polisi, ac yn galw ar Gymru i ddod yn genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd, i ddiogelu coedwigoedd trofannol dramor.

Ein gweledigaeth yw helpu i greu dyfodol lle gall cymunedau coedwigoedd ffynnu ochr yn ochr â choedwigoedd trofannol iach - i wneud ein cenedl yn rhan o'r ateb, yn hytrach na mesur o'r broblem.

Gallwch ddysgu mwy am y diwylliant rydym wedi ymrwymo i'w feithrin yn Maint Cymru, drwy ddarllen ein Hegwyddorion Arweiniol yma. Mae'r rhain yn llywio'r ffyrdd rydym yn rhyngweithio, y penderfyniadau a wnawn, a'r gwaith a wnawn.

**Y Rôl**

Bydd y swyddog allgymorth addysg yn gyfrifol am gyflwyno ein rhaglen addysg gyffrous a phoblogaidd ar newid yn yr hinsawdd mewn ysgolion ar draws Cymru. Byddant yn cynllunio ac yn cyflwyno gweithdai hwyliog ac ysbrydoledig am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol i ddisgyblion o bob oedran.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ymarferydd brwdfrydig ac ymroddedig, sydd â phrofiad o weithio o fewn y system addysg yng Nghymru. Bydd ganddynt ddiddordeb ym mhwysigrwydd coedwigoedd trofannol a newid yn yr hinsawdd, a byddant yn barod i gymryd rhan mewn hyfforddiant pellach ar y pynciau hyn.

Cyfrifoldebau:

- Datblygu gweithdai a chynulliadau dan do ac awyr agored sy'n briodol i oedran ar goedwigoedd trofannol a newid yn yr hinsawdd, i'w cyflwyno mewn ysgolion
- Hyrwyddo'r rhaglen addysg, ac adeiladu perthnasoedd cryf gydag ysgolion
- Casglu data gan ysgolion at ddibenion monitro a gwerthuso, ac ysgrifennu astudiaethau achos ar y camau a gymerwyd gan ddisgyblion ac ysgolion ar newid yn yr hinsawdd, o ganlyniad i'n hymgysylltiad.
- Parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau perthnasol mewn perthynas ag addysg, cwricwlwm Cymru a rhaglenni addysg amgylcheddol ac ymgysylltu ag ieuenctid eraill, yn enwedig yng Nghymru
- Parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau allweddol ar newid yn yr hinsawdd a choedwigoedd trofannol
- Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Addysg a swyddogion allgymorth addysg eraill, i ddatblygu cynnwys gweithdai a datblygu mentrau newydd
- Cynrychioli Maint Cymru mewn rhai digwyddiadau a chynadleddau
- Yn barod i gynnwys yr egwyddorion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael croeso mawr fel aelod o'r tîm, ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd a digwyddiadau tîm yn rheolaidd, ac yn cyfrannu at ddatblygiad sefydliadol yr elusen ac mewn hyrwyddo eich datblygiad proffesiynol parhaus yn unol â'ch rôl a thu hwnt.

**Meini Prawf Dethol**

Isafswm y meini prawf ar gyfer dewis cyfweleion yw 60% o'r Meini Prawf Dethol. Gweler y Tabl Asesu - Meini Prawf Dethol am fanylion
- Cymhwyster neu brofiad perthnasol o gyflwyno sesiynau gyda phobl ifanc o oedran ysgol.
- Siaradwr Cymraeg rhugl
- Arddull cyflwyno deniadol, brwdfrydig.
- Y gallu i reoli amser yn effeithiol a blaenoriaethu llwyth gwaith eich hun.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i adeiladu perthnasoedd cryf gydag ysgolion
- Yn deall neu yn barod i ddysgu am bynciau amgylcheddol fel newid yn yr hinsawdd, cyfiawnder hinsawdd a datgoedwigo.
- Prosiect sgiliau trefnu da a'r gallu i gyrraedd targedau.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys Microsoft Office, a Google Suite
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiogelu, gan gynnwys materion diogelu digidol.
- Yn barod i deithio ar draws Cymru.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i sicrhau bod pob ymgeisydd yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rôl ac y



  • Powys, United Kingdom Powys County Council Full time

    **About the role**: To lead an effective and efficient service ‘which provides support to schools, pupils and parents to ensure regular attendance and address problems relating to absenteeism. The Service liaises with other agencies and provides an important link between home and school helping parents and teachers to work in partnership in order that...


  • Powys, United Kingdom Natural Resources Wales Full time

    **Closing Date**: 23 April 2023 **Salary**: £37,308 - £40,806(Grade 6) **Location**: Flexible **Contract Type**: Permanent **Work Pattern**: Full Time, 37 hours per week. **Post Number**: 203507 You are not expected to have experience of all these industry areas but should have in-depth knowledge and understanding of at least one or two of these...


  • Dinas Powys, Vale of Glamorgan, United Kingdom Supply Desk Full time

    Role: Level 3 Teaching AssistantLocation: Cardiff Salary: £ £85 Per DayAre you passionate about helping students reach their full potential? Do you have a Level 3 Teaching Assistant qualification and a strong desire to make a positive impact in the field of education? If so, we have an exciting opportunity for you to join our dedicated team at Supply Desk...


  • Dinas Powys, United Kingdom Supply Desk Full time

    Role: Level 3 Teaching AssistantLocation: Cardiff Salary: £76.50 - £85 Per DayAre you passionate about helping students reach their full potential? Do you have a Level 3 Teaching Assistant qualification and a strong desire to make a positive impact in the field of education? If so, we have an exciting opportunity for you to join our dedicated team at...


  • Newtown, Powys, United Kingdom Barcud Full time

    Salary: £42,612 Job Type: 37 Hours, Full Time, permanent Locations: Newtown, Aberystwyth or Lampeter Close Date: 5th June 2024 Overview: Assist the Head of Planned Maintenance and Compliancy on the delivery of Barcud’s Planned Maintenance and Compliance programmes through robust contract management that enables Barcud to meet its Regulatory...

  • Planning Technician

    15 hours ago


    Brecon, Powys, United Kingdom Ad Warrior Full time

    Planning Technician They came about as a result of the 1949 National Parks and Access to the Countryside Act, which put a legislative framework in place for the establishment of National Parks in England and Wales. Assist with the processing of planning applications, providing advice on validation requirements, fee enquiries and straight forward planning...

  • Planning Technician

    3 hours ago


    Brecon, Powys, United Kingdom Ad Warrior Full time

    Planning Technician Location: Brecon They came about as a result of the 1949 National Parks and Access to the Countryside Act, which put a legislative framework in place for the establishment of National Parks in England and Wales. Assist with the processing of planning applications, providing advice on validation requirements, fee enquiries and...

  • Planning Technician

    16 minutes ago


    Brecon, Powys, United Kingdom Ad Warrior Full time €28,770 - €31,364

    Planning Technician They came about as a result of the 1949 National Parks and Access to the Countryside Act, which put a legislative framework in place for the establishment of National Parks in England and Wales. Assist with the processing of planning applications, providing advice on validation requirements, fee enquiries and straight forward planning...


  • Brecon, Powys, United Kingdom Powys Teaching Health Board Full time

    THIS POST IS A FIXED TERM/SECONDMENT UNTIL 31/03/2025. IF YOU ARE INTERESTED IN APPLYING FOR THE POSITION ON A SECONDMENT, YOU MUST OBTAIN PERMISSION FROM YOUR CURRENT LINE MANAGER PRIOR TO APPLYING FOR THIS POST. As a Project Manager for the Regional Innovation Co-ordination (RIC) Hub the post holder will play a hands-on role developing strategic...