Darlithydd Diwydiannau Creadigol

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf: 12318**

**Teitl y Swydd**:Darlithydd Diwydiannau Creadigol**

**Contract**:Llawn Amser, Parhaol**

**Cyflog: £24,051 - £47,333 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)**

**Oriau**: 37**

**Lleoliad**:Caerdydd**

Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer (Teitl swydd wag) yn yr adran (Adran) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

**Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys**:

- Ymgymryd â'r holl waith addysgegol fel addysgu yn y dosbarth (sy’n cynnwys gweithdai ayyb.), gwaith tiwtorial sy’n gysylltiedig ag allgymorth, cyrsiau preswyl ac agored a dysgu o bell a lleoliadau myfyrwyr;
- Ymgymryd â’r holl waith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod, paratoi a marcio;
- Ymgymryd â chyfrifoldebau lles myfyrwyr a chwnsela academaidd neu anacademaidd priodol;
- Addysgu set sgiliau a fydd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Ffotograffiaeth Ddigidol.
- Cynnal a chymryd rhan yn y broses arfarnu staff a hyfforddiant mewn swydd yn seiliedig ar asesiad o anghenion unigol neu gorfforaethol;
- Cymryd rhan mewn marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, cynllunio, datblygu a gwerthuso cyrsiau a deunyddiau cyrsiau, cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus;
- Cynorthwyo i fonitro ac olrhain cynnydd myfyrwyr a’u hawl i ddarpariaeth cymorth dysgu;
- Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol ohonoch, yn gymesur â'ch graddfa; yn eich lleoliad gwaith cychwynnol neu leoliadau eraill yn nalgylch y Coleg;
- Gweinyddu a rheoli sefydliadau neu raglenni addysg a hyfforddiant (neu agweddau arwyddocaol ar unrhyw un o'r rhain neu israniadau ohonynt);
- Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai’n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 26/04/2024 am 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:EIL052023** **Teitl y Swydd**:Darlithydd Gosod Trydanol (Lefel 3)** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £22,583 - £44,444 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Diwydiannau Creadigol yn adran Diwydiannau Creadigol Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol ac Allanol** **Teitl y Swydd**: Darlithydd E-chwaraeon **Cytundeb**: Parhaol Sefyllfa ffracsiynol (0.5) Cytundeb **Lleoliad**: Campws Canol y Ddinas **Cyflog**: £22,583 - £44,444 y flwyddyn pro rata yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd E-chwaraeon yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom S4C Full time

    _**Archive and Delivery Officer**_ - S4C is looking for an Archive and Delivery Officer for which the ability to communicate fluently through the medium of Welsh and English is essential for this post._ **Swyddog Archif a Chyfleu** Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn torri tir newydd ymysg rhanbarthau’r Deyrnas Unedig o ran hyrwyddo clystyrau diwydiannol blaenoriaethol sy’n cyflawni ar uchelgais ac sydd o safon orau’r byd. Rydym wedi cyflawni llawer yn barod mewn Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Seiberddiogelwch,...


  • Cardiff, United Kingdom Ofcom Cymru Ofcom Wales Full time

    **Rheolwr y Cyfryngau Cymdeithasol Cymraeg** **Ofcom Cymru** Llawn amser gyda threfniadau gweithio hybrid ar gael Rôl barhaol Mae Ofcom yn chwilio am gyfathrebwr Cymraeg hyderus i arwain ei gwaith cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg. Mae’r corff eisoes yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, ochr yn ochr...