![S4C](https://media.trabajo.org/img/noimg.jpg)
Swyddog Archif a Chyfleu
3 weeks ago
_**Archive and Delivery Officer**_
- S4C is looking for an Archive and Delivery Officer for which the ability to communicate fluently through the medium of Welsh and English is essential for this post._
**Swyddog Archif a Chyfleu**
Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Fel Swyddog Archif a Chyfleu byddwch yn cyd-weithio’n agos gyda staff perthnasol ym meysydd megis cynllunio, cyflwyno a’r adrannau perthnasol o fewn BBC Cymru. Byddwch yn cyfathrebu yn rheolaidd gyda chleientiaid mewnol ac allanol er mwyn tracio statws deunydd ar gyfer gwasanaeth S4C, a byddwch yn gyfrifol am dynnu sylw at a threfnu cywiro unrhyw broblemau yn ystod y broses rheoli safon er mwyn lleihau ar yr effaith ar y darllediad. Yn ychwanegol i’r llun a welir ar y sgrin a’r sain a glywir, mae darllediad yn cynnwys amryw o elfennau megis isdeitlau a sain ddisgrifio a byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y broses sy’n sicrhau fod yr holl elfennau yma yn gywir ac ar gael mewn da bryd ar gyfer eu darlledu.
Mae’r rôl hon wedi lleoli o fewn yr Uned Archif a Chyfleu ac yn atebol i’r Arweinydd Archif a Chyfleu.
**Manylion Eraill**
**Lleoliad**: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.
**Cyflog**:Yn unol a phrofiad.
**Cytundeb**:12 mis cyfnod mamolaeth
**Oriau gwaith**: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
**Cyfnod prawf**: 6 mis
**Gwyliau**: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
**Pensiwn**:Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau**
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Job Types**: Full-time, Fixed term contract
Contract length: 12 months
**Benefits**:
- Casual dress
- Cycle to work scheme
- Free parking
- Life insurance
- On-site parking
- Sick pay
- Work from home
Schedule:
- 8 hour shift
Work Location: Hybrid remote in Cardiff
Application deadline: 03/01/2023
-
Swyddog Mynegai
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...