Uwch Ymarferydd

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol ar gyfer plant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu.

Ar hyn o bryd mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Ymarferydd YJS brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r Gwasanaeth.

Cynigir y swydd ar sail barhaol a bydd ei deiliad yn rhan o'r Tîm Rheoli Achosion a’r Llys.

**Am Y Swydd**
Mae rôl yr Uwch Ymarferydd yn gofyn am ddealltwriaeth a phrofiad o:

- y system cyfiawnder troseddol o ran sut mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc (10-17 oed) sy'n troseddu,
- dealltwriaeth ymarferol o egwyddorion cyfiawnder adferol a dulliau adferol,
- gweithio gyda phlant a phobl ifanc wedi’u dadrithio, eu teuluoedd ac asiantaethau partner

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yn yr ymgeisydd cywir a llwyddiannus yw:

- Profiad o gynnal a chwblhau asesiadau a rheoli achosion cymhleth,
- Profiad o gynllunio ymyriadau priodol wedi'u targedu i leihau'r risg o droseddu/aildroseddu.
- Y gallu i ysgrifennu adroddiadau o ansawdd uchel gan gynnwys paratoi cynigion dedfrydu a bydd yn cyflwyno gwybodaeth i'r Llysoedd pan fo angen.
- Gallu a bod â’r sgiliau i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith achos aelodau’r tîm ar raddau is a helpu i ddatblygu arfer a phrosiectau arbennig yn y tîm.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Marie Sweeney neu Angharad Thomas yn GCI Caerdydd ar 029 22 330355.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03313



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am tri Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...