Swyddog Hyb

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr ymuno â ni yn un o'n timau ffyniannus.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig gyda sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol i ymuno â’n tîm Hybiau a ledled y ddinas.

Mae ein tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd i ddatrys ymholiadau cyngor. Ymfalchïwn yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a darparu gwybodaeth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu digwyddiadau Hyb/Llyfrgell a chydweithio â sefydliadau partner amrywiol i ddarparu gwasanaeth cyfannol.

Mae'r rôl hon yn gofyn darparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel ar faterion Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Cyngor am Arian, Diwygiadau Lles, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, gan ddatrys ymholiadau ar y cam cyswllt cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.

Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan weithio’n dda mewn tîm, a byddwch yn meddu ar agwedd hyblyg.

Bydd gennych agwedd gadarnhaol at heriau newydd ac yn barod i addasu i newid yn gyflym.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol y Gymraeg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a chyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu

Mae'r swyddi hyn yn amodol ar wiriadau DBS.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02947


  • Swyddog Hyb

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Tîm Hybiau’r Gorllewin (Hyb Trelai a Chaerau ) Bydd y Swyddog Hyb yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd i ateb ymholiadau am gyngor, cynnig gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar...

  • Swyddog Hyb

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...

  • Uwch Swyddog Hyb

    21 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Gogledd (Hyb yr Eglwys Newydd ar Hyb Rhiwbeina) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y tasgau'n cynnwys datrys ymholiadau, darparu...

  • Hyfforddai Tai

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â thîm Powerhouse/Llanrumni. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli a chydlynu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol, gan gynnwys darpariaeth llyfrgell lawn a chynllunio digwyddiadau. **Am Y Swydd** Mae'r gwasanaethau a ddarperir...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddedig, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â'n Tîm Ymgysylltu Iechyd a Lles. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu ac yn helpu i ddarparu rhaglenni gwaith iechyd a lles e.e. Dementia, Gofalwyr Di-dâl, HIV, dinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn ac ati. Byddwch...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’r Tîm Gwirfoddoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog a Hybiau a Llyfrgelloedd eraill ledled y ddinas. Bydd gennych brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn deall eu denude **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Hyb Ymyriadau. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol i arwain ar brosiect newydd yn cefnogi timau statudol sy’n gweithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol. **Amdanom NI** Y manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o...