Hyfforddai Tai

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr ymuno â ni yn un o'n timau ffyniannus.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer 2 unigolyn ymrwymedig gyda sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â’n Timau Hyb Cymunedol ledled y ddinas.

Mae ein tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd i ddatrys ymholiadau cyngor. Ymfalchïwn yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a darparu gwybodaeth.

Mae'r rôl hon yn gofyn darparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel ar faterion Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Cyngor am Arian, Diwygiadau Lles, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, gan ddatrys ymholiadau ar y cam cyswllt cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu digwyddiadau Hyb/Llyfrgell a chydweithio â sefydliadau partner amrywiol i ddarparu gwasanaeth cyfannol

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

Yr awydd i ddysgu pob agwedd ar gyngor Hyb a Gwasanaethau Llyfrgell - rhoddir hyfforddiant llawn.

Bydd gofyn i chi gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Hybiau a Llyfrgelloedd i ddatrys ymholiadau a darparu gwasanaethau hyb a llyfrgell a chynnig gwybodaeth arall, gan ganolbwyntio ar y cwsmer.

Byddwch yn cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon uchel, gan gynnwys cefnogi digwyddiadau i’w cynnal yn yr Hybiau a’r Llyfrgelloedd.

Bod yn weithgar yn yr Hybiau/Llyfrgelloedd, gan sicrhau bod aelodau’r tîm yn cyfathrebu’n dda gyda’i gilydd, a chyfrannu at waith y tîm yn gyffredinol.

Byddwch yn gadarnhaol ac yn cael dull hyblyg o ran tasgau gan y bydd dyletswyddau'n amrywio.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae 2 swydd dan hyfforddiant dros dro tan Hydref 2024

Mae’r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y Prif Swyddog neu'r Uwch Swyddog enwebedig perthnasol, sydd ar radd nad yw’n is na RhG2, a all gymeradwyo ceisiadau, neu yn achos staff ysgolion, y Pennaeth neu'r Corff Llywodraethu.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02818


  • Hyfforddai Tai

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Hyfforddai hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Tîm Hybiau’r De yn gobeithio cyflogi 2 **Hyfforddai Corfforaethol i weithio ar draws Hybiau’r De**: **Hyb Grangetown - **Plas Havelock, Grangetown, Caerdydd CF11 6PE. **Hyb STAR** **-** Heol Muirton, Y...