Hyfforddai Tai
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr ymuno â ni yn un o'n timau ffyniannus.
**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig gyda sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â’n Timau Hyb Cymunedol ledled y ddinas.
Mae ein tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd i ddatrys ymholiadau cyngor. Ymfalchïwn yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a darparu gwybodaeth.
Mae'r rôl hon yn gofyn darparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel ar faterion Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Cyngor am Arian, Diwygiadau Lles, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, gan ddatrys ymholiadau ar y cam cyswllt cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu digwyddiadau Hyb/Llyfrgell a chydweithio â sefydliadau partner amrywiol i ddarparu gwasanaeth cyfannol
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Yr awydd i ddysgu pob agwedd ar gyngor Hyb a Gwasanaethau Llyfrgell - rhoddir hyfforddiant llawn.
Bydd gofyn i chi gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Hybiau a Llyfrgelloedd i ddatrys ymholiadau a darparu gwasanaethau hyb a llyfrgell a chynnig gwybodaeth arall, gan ganolbwyntio ar y cwsmer.
Byddwch yn cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon uchel, gan gynnwys cefnogi digwyddiadau i’w cynnal yn yr Hybiau a’r Llyfrgelloedd.
Bod yn weithgar yn yr Hybiau/Llyfrgelloedd, gan sicrhau bod aelodau’r tîm yn cyfathrebu’n dda gyda’i gilydd, a chyfrannu at waith y tîm yn gyffredinol.
Byddwch yn gadarnhaol ac yn cael dull hyblyg o ran tasgau gan y bydd dyletswyddau'n amrywio.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swyddi hyn yn amodol ar wiriadau DBS.
Mae’r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.
Swydd dros dro yw hon tan Mehefin 2025
Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y Prif Swyddog neu'r Uwch Swyddog enwebedig perthnasol, sydd ar radd nad yw’n is na RhG2, a all gymeradwyo ceisiadau, neu yn achos staff ysgolion, y Pennaeth neu'r Corff Llywodraethu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
**Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn arbennig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03603
-
Hyfforddai Tai
17 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn anelu at ddarparu Gwasanaeth o ansawdd dda ac uchel. Mae swydd wag ar gael fel Hyfforddai Tai o fewn yr Hybiau Cymunedol, sef Hyb Ystum Taf a Gabalfa. **Am Y Swydd** Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fynd ar raglen hyfforddiant i gynnig gwasanaeth cynghori proffesiynol, wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn, gan...
-
Hyfforddai Tai
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyngor Caerdydd yw'r Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru sy'n gyfrifol am gyflawni atgyweiriadau i dros 13,000 o eiddo. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio o fewn ein gwasanaeth ac yn datblygu ystod o sgiliau yn y gweithle, gwybodaeth a phrofiad yn ein Huned Cynnal a Chadw Ymatebol yn ogystal â datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth...