Mentor Gwirfoddolwyr

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’r Tîm Gwirfoddoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog a Hybiau a Llyfrgelloedd eraill ledled y ddinas. Bydd gennych brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn deall eu denude

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo’r Cydlynydd Gwirfoddoli i recriwtio, hyfforddi, cynorthwyo a chydlynu gwirfoddolwyr. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol, busnesau a rheolwyr i roi arweiniad a chymorth i’r gwirfoddolwyr yn eu tîm.

Bydd angen i chi allu cyfathrebu'n dda mewn gwahanol leoliadau, gweithio'n dda mewn tîm, a chael agwedd gadarnhaol tuag at heriau newydd gyda pharodrwydd i addasu'n gyflym i newid.

Mae angen profiad o greu a darparu hyfforddiant anffurfiol a rhaglenni datblygiad personol wrth gadw at systemau, polisïau a gweithdrefnau. Mae angen gwybodaeth ymarferol dda o’r rhaglenni TGCh mwyaf cyffredin a’r gallu i roi cyngor i eraill ynghylch eu defnyddio

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddai profiad o recriwtio gwirfoddolwyr yn y gymuned yn fantais sylweddol ond nid yw’n hanfodol gan y cewch hyfforddiant

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024.

**Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.**

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais trwy'r post.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02500



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’r Tîm Gwirfoddoli Cymunedol mewn Hybiau a Llyfrgelloedd ledled y ddinas. Bydd gennych brofiad blaenorol o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn deall eu hanghenion. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo’r...