Tiwtor I Oedolion Sesiynol

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Gwasanaethau Dysgu Cymunedol Oedolion Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal pedair rhaglen fel a ganlyn:
**Yn Ôl ar y Trywydd Iawn**

Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyrsiau Am Ddim i ddysgwyr sy’n gymwys. Mae’r cyrsiau yn fyr, 10 wythnos neu weithdai un diwrnod ac yn cael eu hachredu. Mae’r rhaglen yn cynnwys Sgiliau Digidol, Cyflogadwyedd, Sgiliau i’r Gweithle, Hunan-hyder ac Iaith Arwyddo Prydeinig, yn ogystal â chyrsiau Iechyd a Lles. Ceir mwyafrif y rhaglen yng Nghanolfan Dysgu Oedolion Palmerston, y Barri CF63 2NT gyda darpariaeth ymestynnol drwy’r Fro.

**Canolfan Ddysgu’r Fro**

Mae’r rhaglen hon, sy’n cael ei ariannu drwy fasnachfraint, yn cynnig amrediad o Sgiliau Hanfodol: Gweithdai Saesneg a Mathemateg ar sawl lefel o Fynediad 1 i Lefel 2. Caiff dysgwyr eu cynnal i lwyddo mewn amrywiaeth o gymwysterau gan gynnwys Agored Cymru a City and Guilds. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gweithdai E.S.O.L (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) lle gall dysgwyr weithio tuag at gymwysterau Arholiad Coleg y Drindod. Lleolir y rhaglen yn bennaf yng Nghanolfan Ddysgu’r Fro o fewn Llyfrgell y Barri CF63 4RW

**Cyrsiau’r Fro**

Mae’r rhaglen hon o gyrsiau Hamdden yn cynnwys amrediad eang o gyrsiau Addysg Oedolion ar-lein ac mewn nifer o leoliadau ar draws Bro Morgannwg. Mae’r pynciau yn cynnwysL Celf, Crefftau, Coginio, Cerdd, Ieithoedd Modern, Ffotograffiaeth, Cwnsela ac Iechyd a Ffitrwydd. Mae’r cyrsiau yn ystod y dydd neu’r noswaith, am ddeg wythnos, ac ar gael fel gweithdau Undydd.

**Dysgu Cymraeg y Fro**

Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn cynnig ystod cyfan o gyrsiau Cymraeg i oedolion ym Mro Morgannwg, o lefel Mynediad (dechreuwyr) hyd Gloywi. Gall y dysgwr ddewis y cyflymder o’r cynnig eang o gyrsiau unwaith yr wythnos hyd cyrsiau Cyflym Iawn. Cynigir Dysgu o Bell, gan gynnwys cyrsiau Cyfunol sy’n cynnwys elfen o hunan-astudio. Cynhelir cyrsiau yn ystod y dydd ac yn y nosweithiau, mewn lleoliadau ar draws y Fro, ac hefyd ar-lein dros Zoom. Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn cynnig Dysgu Anffurfiol drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol i gefnogi dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Graddfa Gweithwyr Proffesiynol Ieuenctid a Chymuned JNC Pwynt 14

Oriau Gwaith: Sesiynau rhan amser amrywiol fel bo angen. Mae sesiynau fel arfer yn 2.5 awr o hyd ac yn digwydd yn y boreau, prynhawniau neu gyda’r nos. Bydd y cyrsiau’n parhau am gyfnod rhwng 3 a 30 wythnos a gall gynnwys gweithdai undydd a chyrsiau blasu.

Prif Waith: Amrywiol

Mae angen tiwtoriaid sesiynol rhan amser ar gyfer ystod o gyrsiau Addysg i Oedolion ym Mro Morgannwg. Ar hyn o bryd mae angen tiwtoriaid ar gyfer y pynciau isod:

- Sgiliau Digidol,
- Sgiliau i’r Gweithle (e.e. Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch)
- S.O.L. Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
- Sgiliau Sylfaenol:

- Saesneg a/neu Fathemateg
- Cymraeg i Oedolion

**Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau am bynciau perthnasol eraill ar gyfer ystyriaeth yn y dyfodol.**
**Amdanat ti**
Bydd angen:

- addysg at lefel uchel gyda sgiliau da mewn llythrennedd a rhifedd.
- gwybodaeth drylwyr ac adnabyddiaeth dda o’ch pwnc neu faes.
- cymhwyster addysgu perthnasol neu wrthi’n cwblhau cymhwyster addysgu (Hanfodol)
- profiad o addysgu neu hyfforddi oedolion (dymunol).
- Cymhwyster Ymarferwr perthnasol (dymunol ar gyfer ymgeiswyr sy’n bwriadu dysgu ESOL neu Sgiliau Sylfaenol).
- dealltwriaeth o asesu neu brofiad o addysgu rhaglenni sy’n cael eu hachredu.
- hyder wrth addysgu gan ddefnyddio technoleg ddigidol
- y gallu i addysgu’n Hybrid (wyneb yn wyneb ac ar-lein) lle’n berthnasol, neu yn fodlon hyfforddi ymhellach.
- sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddarparu gwersi arloesol a chreadigol sy’n herio ac yn diddori’r dysgwyr.
- dealltwriaeth o anghenion dysgwyr sy’n oedolion, ac empathi at ddysgwyr bregus.
- parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant pellach.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Deborah Lewis - 01446 733762

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: LS00141



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Me’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn wasanaeth i bobl o bob oed gydag ASA/Awtistiaeth sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnig un pwynt mynediad, gan gynnwys opsiynau hunan-atgyfeirio i'r gwasanaeth diagnosteg oedolion ac ymyriadau byr dymor parhaus i oedolion a theuluoedd ar ôl cael diagnosis a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu pobl sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth ac yn eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae'r tîm yn ymateb i unigolion y gall eu hanghenion fod yn gymhleth neu y mae angen eu monitro a’u cefnogi’n barhaus er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau lles. Mae'r tîm yn cefnogi pobl nad yw...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol? Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru? Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg. Mae gwasanaethau cymdeithasol oedolion ym Mro Morgannwg yn rhoi ein staff a’n Mae gennym gyfle ar gyfer Swyddog Cymorth Gofalwyr rhan...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn hyblyg, gwydn, brwdfrydig a gweithgar ddod yn rhan annatod o weledigaeth y cyngor i ddarparu'r gwasanaethau iawn i bobl ag anawsterau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Fel y disgrifir yn Fframwaith Gwasanaeth i Drin Pobl sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl a Phroblemau oherwydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae tîm Asesydd Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dîm integredig sy'n cynnwys staff Nyrsio a Gweithwyr Cymdeithasol, Ei prif gyfrifoldebau yw cynnal asesiadau integredig cynhwysfawr o unigolion mewn cartrefi nyrsio a chynrychioli'r Awdurdod Lleol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a...

  • Gweinyddwr Diogelu

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm o Weinyddwyr Diogelu. Wedi'i leoli yn y tîm Diogelu Oedolion a Phlant, rydym yn chwilio am unigolion profiadol addas, brwdfrydig a hynod frwdfrydig i ymuno â'n tîm a darparu cefnogaeth weinyddol ar draws y timau sy'n diogelu swyddogaethau. **Ynglŷn â'r rôl** Fel Gweinyddwr Diogelu byddwch yn rhoi...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rhaglen Llywodraeth Gymru yw Flying Start ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed ac mae'n darparu ystod o wasanaethau sy'n helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 6, PCG 14-19, (£27,334 -£29,777 ) pro rata Oriau Gwaith: 37 Patrwm Gweithio: Llun - Gwener Prif Waith: Y Barri Disgrifiad:...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tŷ Dewi Sant yn gartref gofal preswyl sy’n cefnogi hyd at 33 o bobl hŷn. Mae’n adeilad unllawr llachar, sy’n ystyriol o ddementia ac mae lles preswylwyr ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn. Mae gennym dîm mawr o staff sy'n ymroddedig ac yn groesawgar. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 5, SCP 8 - 12 £24,702 -...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rhaglen Llywodraeth Gymru yw Flying Start ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed ac mae'n darparu ystod o wasanaethau sy'n helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 5, PCG 8 -12 £22,777 - £24,496 y.f. Oriau Gwaith: 37 Prif Waith: Y Barri Dros dro hyd at...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Datblygu Taliadau Uniongyrchol, sy’n swyddogaeth allweddol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 7...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cartref Preswyl Southway ar Gyfer Pobl Hŷn - Y Bont-faen Ein nod a'n hamcan yw gwella profiad bywyd ein preswylwyr a'u llesiant cyffredinol trwy ddarparu gwasanaeth o ansawdd mewn amgylchedd diogel a chartrefol, gyda gofal a chymorth sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd fwyaf priodol i'r unigolyn. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cartref Preswyl Southway ar Gyfer Pobl Hŷn - Y Bont-faen Ein nod a'n hamcan yw gwella profiad bywyd ein preswylwyr a'u llesiant cyffredinol trwy ddarparu gwasanaeth o ansawdd mewn amgylchedd diogel a chartrefol, gyda gofal a chymorth sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd fwyaf priodol i'r unigolyn. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Gwasanaethau Cymdeithasol / Gwasanaethau Preswyl Oedolion Ein nod a'n hamcan yw gwella profiad bywyd ein preswylwyr a'u llesiant cyffredinol trwy ddarparu gwasanaeth o ansawdd mewn amgylchedd diogel a chartrefol, gyda gofal a chymorth sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd fwyaf priodol i'r unigolyn. **Ynglŷn â'r...

  • Gweithiwr Chwarae

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn croesawu ceisiadau am Weithiwr Chwarae i weithio yn ein Clwb y Tu Allan i Oriau Ysgol, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Gynradd Evenlode. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm uchel ei barch sy'n darparu gofal plant o ansawdd uchel. **Am y Rôl** Manylion Tâl: Gradd 1, SCP 2 £10.90 yr awr Oriau: Cyfanswm yr oriau i'w cytuno - Cyn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau Teg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio...