Swyddog Cymorth Gweinyddu Corfforaethol

1 month ago


Bangor, United Kingdom Anheddau Full time

Pecyn Gwybodaeth Swyddog Cymorth
Gweithredol
Information Pack Corporate
Administration Support Officer

**Croeso**

**Diolch yn fawr am ddangos diddordeb mewn ymuno â thîm Anheddau.**

Sefydlwyd Anheddau yn 1989, fel sefydliad elusennol nid-er-elw sy’n grymuso oedolion ag anghenion cymorth i fyw bywydau bodlon yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Rydym yn flaenllaw yn y maes Gofal Cymdeithasol ers mwy na 30 blynedd yn darparu gwasanaethau cefnogol i unigolion fyw bywydau bodlon.

Mae Anheddau wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth o’r safon uchaf.

Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gwneud nifer o wahanol bethau:
■ Hyrwyddo annibyniaeth, lles a dewis, a diogelu hawliau pobl
■ Galluogi pobl i ennill a gwella eu sgiliau ac ansawdd eu bywyd
■ Gweithio gyda Sefydliadau eraill sy’n rhannu athroniaeth Anheddau er mwyn sicrhau canlyniadau positif i bobl
■ Ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu gydol oes i weithlu amrywiol er mwyn eu grymuso i ragori yn eu swyddi
■ Defnyddio arferion cyflogaeth teg a chyson

Rydym yn grymuso unigolion i hwyluso a chanfod eu nodau personol, y pethau maent yn ei hoffi, eu galluoedd a’u dewisiadau. Mae hyn yn galluogi pob unigolion sy’n derbyn cymorth i gael llais, dewis a rheolaeth wrth weithredu a phenderfynu sut mae eu hanghenion cymorth a’u dewisiadau yn cael eu canfod, eu darparu a’u cyflawni, tra’n sicrhau’r lefel uchaf o annibyniaeth.

‘Ymrwymo, Grymuso, Rhagori’ yw gwerthoedd craidd Anheddau, ac mae ein diwylliant a’n gwasanaethau yn seiliedig ar y gwerthoedd hyn.

**Dyddiad Cau : 11fed Ebrill 10yb**

1

**Welcome and thank you for showing an interest in joining Anheddau**

Established in 1989, Anheddau is a not for profit, charitable Organisation which empowers adults with support needs to live fulfilled lives in North West Wales. We have been at the forefront of Social Care for over 30 years providing support services to individuals to live fulfilled lives.

Anheddau is committed to providing support of the highest standard.

In order to do this we do many different things:
■ Promote independence, wellbeing, choice and protect the rights of people
■ Enable people to acquire and improve their skills and quality of life
■ Work with other Organisations that share Anheddau's philosophy in order to maximise positive outcomes for people
■ Commit to providing appropriate lifelong learning and development opportunities to a diverse workforce to empower them to excel in their roles
■ Exercise fair and consistent employment practises

We empower individuals to facilitate and identify their own personal goals, preference, abilities and choices. This enables all supported individuals to have voice, choice and control in implementing and determining how their support needs and preferences are identified, provided and achieved whilst maximising their independence.

The core values of Anheddau are ‘Commit, Empower, Excel’ and our culture and service delivery is based upon these values.

**Closing Date : 11th April 10am**

2

**Disgrifiad o’r Swydd**

**Teitl y Swydd**:Swyddog Cymorth Gweinyddu Corfforaethol

**Graddfa Gyflog**:Lefel 4 pwyntiau graddfa 3 - 6

**Lleoliad gwaith**:Y Swyddfa Gofrestredig ym Mangor.

**Oriau**:160 awr y mis (cyfnod penodol o flwyddyn)

**Crynodeb trefniadaethol**:Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol yw’r rheolwr llinell i ddechrau.

**Crynodeb o’r swydd**:Gan weithio fel aelod o dîm dwyieithog bychan, bydd y sawl a benodir yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol a chymorth TGCh cynhwysfawr i’r tîm
Gwasanaethau Corfforaethol, gan arwain y gwaith o gynnal y systemau gweinyddol cyfredol tra’n cefnogi’r gwaith o weithredu a chyflwyno datrysiadau digidol, cadw cofnodion a chynnwys digidol, a hynny er mwyn cefnogi twf y sefydliad.

Bydd y Swyddog Cymorth Gweinyddu Corfforaethol yn gyfrifol hefyd am reoli cyfarpar y swyddfa gofrestredig a’r elfennau iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd.

**1 Dyletswyddau’r Dderbynfa**

1 Gofalu am y dderbynfa am o leiaf 3 ddiwrnod yr wythnos yn y Swyddfa
Gofrestredig.

**2 Dyletswyddau gweinyddu/TGCh**

2.1 Bod yn gyfrifol am helpu gweithwyr newydd i gynefino â Meddalwedd Adnoddau
Dynol IRIS, sy’n cynnwys rhoi cyfrineiriau, mewnbynnu gwybodaeth a darparu cymorth rheng-flaen i ymholiadau.

3

2.2 Bod yn gyfrifol am helpu staff i gynefino â’r meddalwedd Nourish.

2.2 Darparu Bathodynnau ID.

2.3 Creu cyfrineiriau, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer delio ag ymholiadau lefel isel yn ymwneud â TGCh, fel y caiff hyn ei ddirprwyo gan y Rheolwr TGCh.

2.4 Trawsgrifio cynnwys sain fel y bo angen.

2.5 Cynorthwyo’r Rheolwr Adnoddau Dynol mewn digwyddiadau Recriwtio fel y bo angen.

2.6 Storio’r gyflogres wrth gefn fel y bo angen.

2.7 Echdynnu data i gydymffurfio â rheolau adrodd.

2.8 Cefnogi’r gwaith o ddatblygu systemau a phrosesau i hwyluso gwaith y Tîm
Gwasanaethau Corfforaethol yn unol â’r Strategaeth Gwasanaethau Corfforaethol.

2.9 Cynorthwyo’r Rheolwr TG


  • Swyddog Ynni Cartref

    1 month ago


    Bangor, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

    Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. **Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin syn rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn.** Nod Canllaw yw _galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau_. Rydym yn fenter gymdeithasol syn gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol....


  • Bangor, United Kingdom Flat Fee Recruiter Full time

    **Senior Procurement Officer**: **Salary**: £33,623 - £36,555 per annum **Town**: Bangor **Closing date**: 21/02/2024 **Senior Procurement Officer** **Tŷ Coch - Bangor, LL57 4BL (Hybrid working)** **£33,623 - £36,555 per annum** **37 hours per week, Permanent** **Welsh speaking is essential for this role** We are Adra. We provide quality homes in...