![Grwp Cynefin](https://media.trabajo.org/img/noimg.jpg)
Swyddog Ynni Cartref
2 months ago
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
**Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin syn rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn.**
Nod Canllaw yw _galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau_. Rydym yn fenter gymdeithasol syn gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
**Gofal a Thrwsio** Gwynedd a Môn **Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd iw cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannun bennaf gan Lywodraeth Cymru.
**Canllaw Addasu** - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth.
**Canllaw Technegol**:
- Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid syn bobl hŷn neu bobl fregus.
**Maer swydd Swyddog Ynni Cartref yn un o ddeuddeg ar draws Cymru, syn seiliedig ym mhob un o Asiantaethau Gofal a Thrwsio ac a fydd yn gweithredu fel rheolwyr llinell.**
Caiff y swyddi eu cydlynu yn ganolog gan Reolwr Prosiect, **Bywn hirach nid oerach **yn Care & Repair Cymru.
Bydd y Swyddog Ynni Cartref yn darparu gwasanaeth gwaith achos cynhwysfawr ac arbenigol, ymgynghorol a chymorth i bobl hŷn sydd mewn tlodi tanwydd neu mewn risg o hynny, neu sydd angen gwella effeithiolrwydd ynni eu cartref i liniarur oerfel.
Bydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gwaith achos arbenigol ymweld â chartrefi. Bydd y gwasanaeth yn holistig, yn ymateb i broblem ac wedi ei deilwra i anghenion yr unigolyn. Bydd y pwyslais ar ostwng defnydd ynni domestig, gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi a chynyddu incwm aelwydydd. Hefyd bydd cydweithio agos gyda Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol Gofal a Thrwsio ac eraill yn yr Asiantaeth er mwyn trafod problemau tai eraill a materion o bryder ir unigolyn syn effeithio ar eu tlodi tanwydd, eu hiechyd au diogelwch, au lles.
Caiff cleientiaid eu hatgyweirio o nifer o ffynonellau yn uniongyrchol drwy farchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer **Bywn hirach nid oerach**, atgyweirio mewnol gan Weithwyr Achos a Swyddogion Technegol Gofal a Thrwsio lle mae cleientiaid angen cefnogaeth arbenigol gydag effeithiolrwydd ynni a thlodi tanwydd a chan ystod o bartneriaid atgyweirio a ddatblygwyd fel rhan o brosiect ehangach **Bywn hirach nid oerach**.
Bydd y Swyddog Ynni Cartref hefyd yn atgyfeirio cleientiaid ar gyfer gwasanaethau ehangach Gofal a Thrwsio fel syn berthnasol lle maent hefyd angen help gyda gwaith trwsio, cynnal a chadw, atal syrthio a/neu addasiadau, felly beth bynnag y llwybr ar gyfer y cleient, byddant yn derbyn gwasanaeth cynhwysfawr Gofal a Thrwsio.
**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.**
**Y Pecyn**
**Math o gytundeb**:Cytundeb Penodol am 2 flynedd
**Cyflog**:Band D £27,335 - £28,154
**Oriau**: 35 awr yr wythnos
**Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd
**Teithio**:Defnyddiwr Car Hanfodol
**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
**Buddiannau** (cynnwys y daflen newydd gan Hawys yma pan fydd yn barod)
Mynediad in Cynllun Cymorth Cyflogaeth
Cyfleusterau gweithio hyblyg ar gallu i weithio o bell/ gweithio gartref os yn addas
Cynllun arian parod iechyd Westfield Health
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Cynllun fflecsi yn cael ei weithredu
Cyflog salwch**:Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu
**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion
2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i ysgaru
Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol
Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol
**Sut i Ymgeisio am y swydd**
Canllawiau sut i ymgeisio: Canllawiau cwblhau cais.pdf
Pecyn Swydd: DS Swyddog Ynni Cartref (Cynllun byw hirach nid oerach 03.24.pdf
**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad ((Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd)) ar gyfer y swydd hon.
-
Data Graduate
3 weeks ago
Bangor, Gwynedd, United Kingdom ADRA Full time €26,697 - €29,132Graduate Assets Officer Ty Coch – Bangor, Ty Gwyrddfai – Penygroes, LL57 4BL (Hybrid working) £37 hours per week, Fixed Term – 2 Years We provide quality homes in North Wales. Over the coming years we will have built a significant number of homes outside the county, with an ambition to be providing several hundred more high quality homes across...