Swyddog Beics Antur
2 months ago
**Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.**
Prif Ddyletswyddau
1. Cydweithio ar brosiect Beicio i Bawb yn Beics Antur ar gyfer trawstoriad o grwpiau o fewn y Gymuned
- Cyflawni gwaith o fewn y Cynllun Beicio i Bawb i sicrhau gwasanaeth cwsmer o’r safon uchaf, gan gynnal parhad y prosiect
- Cynnal sesiynau Sgiliau Beicio mewn Ysgolion Cynradd ar draws Gogledd Orllewin Gwynedd
- Cynnal sesiynau beicio efo trawstoriad eang o grwpiau cymunedol
- Monitro sesiynau beicio ac adrodd yn ôl i’r Rheolwraig Datblygu Busnes yn reolaidd
- Bod yn gyfarwydd â gofynion Iechyd a Diogelwch ym mhob agwedd o redeg y prosiect gan gynnwys asesiadau risg
- Y gallu i ddatblygu arbenigedd technegol trwsio a gwasanaethu beics o bob math
- Meithrin perthynas dda gyda trawstoriad o grwpiau yn y gymuned gan hybu’r prosiect Beicio i Bawb
2. Gweithredu fel aelod allweddol o dîm Beics Antur a’r Tri Busnes Gwyrdd i ddatblygu’r prosiect.
- Cydlynu ar raglen Iechyd a Llesiant
- Cefnogi’r unigolion yn eu man gwaith, i ddatblygu eu sgiliau gwaith gan gynnwys gofal cwsmer, mecanwaith ac ail-ddefnyddio/ailgylchu beics i gyd fynd a’r cynlluniau gofal
- Sicrhau trefn llogi a gwerthu beics llwyddiannus a diogel
- Gwasanaethu a thrwsio beics, gan gynnwys beics cyffredinol, addasedig a trydan
- Meithrin perthynas dda gyda’r asiantaethau/cwsmeriaid a thwristiaid gan hybu’r prosiect a denu cwsmeriaid newydd
- Cefnogi gwirfoddolwyr a phrofiadau gwaith i ddatblygu sgiliau yn y maes
- Cydweithio’n agos gyda’r Uwch Swyddog Beics Antur a’r Rheolwyr perthnasol a rhoi gwybodaeth cyson ar faterion gweithredol prosiect Beicio i Bawb a Beics Antur
- Bod yn effeithiol yn masnachu gyda chwmnïau gwerthu beics ac offer mewn cydweithrediad â’r Uwch Swyddog Beics Antur
- Mynychu cyfarfodydd a hyfforddiant yn ôl yr angen
- Sicrhau amgylchedd glan a thaclus fydd yn annog gwerthiant nwyddau a sicrhau fod delwedd y busnes yn ddeniadol ac yn cyfrannu at broffil Antur Waunfawr.
3. Cyfrannu yn adeiladol tuag at nod, amcanion a gweithgareddau Antur Waunfawr.
- Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel bo’r galw.
- Gweithio fel aelod o’r tîm ar brosiectau eraill Antur Waunfawr yn ôl y galw.
- Gweithredu fel cynrychiolydd Antur Waunfawr yn y gymuned
RHAN DAU
1. Arolygaeth
Byth
2. Awdurdod
I ba raddau mae disgwyl i’r swydd-ddeiliad:
- a) Symbylu, cynnig a datblygu polisi?
Byth.
b) Dewis a diswyddo staff (dangoswch ai’n gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig).
Byth
c) Adolygu perfformiad a hyfforddi/datblygu staff.
Byth
2. Cyswllt ag Eraill
Pwy (teitl y swydd) Pam Pa Mor Aml
O fewn Antur
Waunfawr:
Adran Gyllid Uwch Swyddog Beics Antur a Rheolwraig Datblygu Busnes Rheolwraig Datblygu Busnes Rheolwr Marchnata a Cyfathrebu Arian Parod Elfen y prosiect Materion iechyd a diogelwch Hyrwyddo’r prosiect Wythnosol Dyddiol Cyson Cyson
Allanol Ysgolion lleol Masnachwyr beics ag offer Gwasanaethau Iechyd e.e. Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Lleferydd, Meddyg Teulu Gweithwyr Cymdeithasol Teulu/gofalwyr Sesiynau beicio i ddisgyblion ysgol Gwasanaethu beics Gofynion Iechyd Gofynion Gwasanaeth Eirioli a chyfathrebu’r gwasanaeth Wythnosol Fel bo’r galw Fel bo’r galw Fel bo’r galw Fel bo’r galw
4. Canlyniad Camgymeriadau
Gallai un neu fwy o gamgymeriadau greu niwed i’r defnyddiwr, allai arwain at golli ymddiriedaeth yn y gwasanaeth fyddai yn ei dro yn niweidio enw da Antur Waunfawr. Gallai hefyd arwain at achosion Llys Barn a byddai hyn yn niweidio gallu’r Cwmni i gystadlu am waith pellach yn y dyfodol.
5. Maint Cymharol y Swydd
Cyfanswm y staff yn gyfrifol amdanynt : Dim
Cyfrifoldeb cyllidebol cyfartalog bob blwyddyn: Dim
Cyfrifoldeb codi arian cyfartalog bob blwyddyn: Dim
Cyfrifoldeb tuag at y unigolion: Uchel
Nifer y prosiectau ynghlwm wrthynt ar unrhyw un adeg: 2 Beicio i Bawb ac Beics Antur
Eraill, rhowch fanylion:
- 6. Sgiliau
- Rhestrwch y sgiliau arbenigol angenrheidiol er mwyn gwneud y swydd.
Ø Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a'r Saesneg
Ø Y gallu i drefnu rhaglen waith ar brosiect Beicio i Bawb.
Ø Dealltwriaeth o drin beics
Ø Diddordeb naturiol yn y maes beicio, awyr agored a chyfleoedd twristiaeth
Ø Y gallu i annog unigolion gydag anableddau dysgu i ehangu eu sgiliau
Ø Sgiliau rhyngbersonol cryf
Ø Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol e.e. Windows, Excel, we fyd-eang, ac e-bost
Ø Y gallu i weithio dan bwysau
Ø Y gallu i fod yn flaengar a derbyn cyfrifoldeb
Ø Y gallu i weithio mewn tîm ac yn annibynnol
Ø Lefel dda o ffitrwydd i gynnal sesiynau beicio a gweithgareddau Iechyd a Llesiant eraill
Ø Gyrrwr a pherchennog car yn hanfodol
Ø Sgiliau rhifyddiaeth dda, hy, y gallu i dderbyn a delio gydag arian, defnyddio system ‘cybertill’ / derbyn taliadau cerdyn credyd, ayb
- Rhestrwch y cymwysterau addysgol/galwedigaethol angenrheidiol ar gyfer y swydd
- Y gallu i gwblhau cym
-
Swyddog Prosiectau
2 months ago
Caernarfon, United Kingdom Antur Waunfawr Full time**SWYDD DDISGRIFIAD** **Dyddiad Cwblhau**:Mawrth 2024 **Teitl y Swydd**:Swyddog Prosiectau*** **Adran y Swydd**:Canolog*** **Lleoliad y Swydd**:Waunfawr*** **Hyd Cytundeb**: Blwyddyn (Mehefin 2024 Mehefin 2025)*** **Gradd y Swydd**:Gradd 3 - £26,184*** **Atebol i**:Prif Weithredwraig **Oriau a dyddiau gwaith**:DyddLlun i Gwener, 37.5 awr yr...
-
Projects Officer
4 days ago
Caernarfon, United Kingdom Antur Waunfawr Full time**Teitl y Swydd**: Swyddog Prosiectau **Adran y Swydd**: Canolog **Lleoliad y Swydd**: Waunfawr **Hyd Cytundeb**: Blwyddyn (Mehefin 2024 - Mehefin 2025) **Gradd y Swydd**: £26,184 **Atebol i**:Prif Weithredwraig **Nod Cyffredinol y Swydd** 1. Mewn cydweithrediad a’r Rheolwr Datblygu Busnes a’r Uwch Dîm Rheoli, arwain a gweithredu ar brosiectau...
-
Cynorthwy-ydd Cyllid
2 months ago
Caernarfon, United Kingdom Antur Waunfawr Full time**Pecyn Recriwtio** **Cynorthwy-ydd Cyllid** **Antur Waunfawr** **Neges gan y Brif Weithredwraig** **Annwyl Ymgeisydd,** Diolch ichi am ddangos diddordeb mewn ymuno ag Antur Waunfawr fel Cynorthwy-ydd Cyllid dros gyfnod mamolaeth. Gweledigaeth R. Gwynn Davies, gyda chefnogaeth gref gan bobl ardal Waunfawr fu’n gyfrifol am sefydlu Antur Waunfawr yn...