Prentis Corfforaethol

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**YNGLŶN Â'R GWASANAETH**
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Tîm Hybiau yn awyddus i gyflogi **Prentis **Corfforaethol** (Lefel 2)** wedi'i leoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog Yr Aes Caerdydd CF10 1FL, i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i gyflawni. Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolion ymroddedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol i ymuno â'n tîm yn Hyb y Llyfrgell Ganolog. Mae'r Hybiau’n rhoi cyngor proffesiynol rheng flaen i gwsmeriaid ar Fudd-dal Tai. Mae'r rhain yn cynnwys Credyd Cynhwysol, y Budd-dal Tai a Chynlluniau Gostyngiad y Dreth Gyngor, ac ystod eang o wasanaethau'r cyngor gan gynnwys y rhai a ddarperir gan sefydliadau partner.

**YNGLŶN Â’R SWYDD**
Yn y rôl **Prentis Corfforaethol (Lefel 2) **hon, byddwch yn dysgu sut i:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar i gwsmeriaid yr Hyb a phartneriaid sy’n darparu gwasanaeth, boed hynny wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn. Byddwch yn helpu i drefnu apwyntiadau, yn cynorthwyo cwsmeriaid â sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ac yn helpu gyda dyletswyddau gweinyddol cyffredinol.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaid a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein ac i weithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos ar sail rota.

Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru mewn **Cymorth Rhaglenni Digidol ar Lefel 2.** *Sicrhewch eich bod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.

**YR HYN RYDYM YN EI DDISGWYL GENNYCH CHI**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

**GWYBODAETH YCHWANEGOL**
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03484



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu...

  • Prentis Corfforaethol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...

  • Prentis Corfforaethol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein Tîm Cymorth Gweithredol yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn bennaf yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu cefnogaeth busnes i ystod amrywiol o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys Parciau, Chwaraeon, Awdurdod yr Harbwr, Hamdden a Chwarae a Youth Foods. Gan...

  • Prentis Corfforaethol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Prentis Data Ad

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn yn gweithio'n llawn amser (37 awr), sy'n cyfateb i £12.00 yr awr (pro rata), gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd yr atodiad Cyflog Byw yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw.** Mae Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol Mae Tîm Canolfan Ieuenctid Butetown y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi **Hyfforddai Corfforaethol**: - Gweithiwr Ieuenctid i weithio yng Nghanolfan Ieuenctid Butetown Pavilion, Dumballs Road, Butetown, CF10 5FE, i gyfrannu...

  • Welsh Headings

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...