![Cardiff Council](https://media.trabajo.org/img/noimg.jpg)
Prentis Corfforaethol
2 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae ein Tîm Cymorth Gweithredol yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn bennaf yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu cefnogaeth busnes i ystod amrywiol o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys Parciau, Chwaraeon, Awdurdod yr Harbwr, Hamdden a Chwarae a Youth Foods. Gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid mewnol ac aelodau o’r cyhoedd, byddwch yn datblygu sgiliau gweinyddu swyddfa cyffredinol, gan gynnwys ymateb i holiadau cwsmeriaid yn gywir, llunio llythyrau, cymryd cofnodion cyfarfodydd, cyflawni tasgau rhifedd sylfaenol e.e. helpu gyda chyfrif arian, bancio incwm, helpu gydag archebion, a chyflawni gwaith TGCh cyffredinol gan ddefnyddio Rhaglenni Microsoft a systemau eraill
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd weithio o Swyddfeydd Heol Wedal, Trem y Môr a DGRhC.
Yn bennaf, byddwch yn swyddfa, lleoliad neu gyfleuster, ond efallai y bydd rhai cyfleoedd i weithio gartref hefyd.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl Prentis Corfforaethol (Lefel 2) Swyddog Gweinyddu Busnes hon, byddwch yn dysgu sut i:
Gweithio’n rhan o dîm i ddarparu gwasanaeth o’r safon orau. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n ymwneud â'r gweithle y gallwch eu trosglwyddo, er enghraifft sgiliau gweinyddu swyddfa cyffredinol, defnyddio Word ac Excel, ateb y ffôn, defnyddio TG, helpu cwsmeriaid gyda’u hymholiadau a datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych.
Bydd tîm y gwasanaeth yn eich helpu ac yn eich annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae'r Cynllun Prentis Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy, ac i gefnogi eich dilyniant gyrfa. Byddwch hefyd yn dilyn a chwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes yn rhan o’r rôl hon.
Byddwch yn derbyn y Cyflog Byw Gwirfoddol yn y rôl hon, sef £9.90 yr awr ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith o 37 awr er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan-amser. Byddwch yn cael 27 diwrnod o wyliau â thâl a gwyliau banc.
I ddechrau byddwch yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30am a 16:30pm ond bydd cyfle i fanteisio ar gynllun gweithio hyblyg wrth i'r brentisiaeth fynd yn ei blaen.
Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein Tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein ac i weithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru mewn Cymorth Ceisiadau Digidol ar Lefel 2. *Sicrhewch eich bod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein Prentisiaid Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**
**Mae graddedigion ond yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae'r swydd hon yn un dros dro am **15** mis os byddwch yn gweithio ar sail lawn-amser, neu'n hirach os byddwch yn gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweith
-
Prentis Corfforaethol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu...
-
Prentis Corfforaethol
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Prentis Corfforaethol Lefel 2
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...
-
Prentis Corfforaethol
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...
-
Prentis Corfforaethol Cyngor Caerdydd
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Prentis Corfforaethol Cyngor Caerdydd
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Prentis Data Ad
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn yn gweithio'n llawn amser (37 awr), sy'n cyfateb i £12.00 yr awr (pro rata), gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd yr atodiad Cyflog Byw yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw.** Mae Cyngor...
-
Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol Mae Tîm Canolfan Ieuenctid Butetown y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi **Hyfforddai Corfforaethol**: - Gweithiwr Ieuenctid i weithio yng Nghanolfan Ieuenctid Butetown Pavilion, Dumballs Road, Butetown, CF10 5FE, i gyfrannu...
-
Welsh Headings
2 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...