Swyddog Gorfodi Sifil

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae dwy rôl barhaol ar gyfer Swyddog Gorfodi Sifil Gradd 5 wedi codi yn y Tîm Gorfodi Parcio Sifil.

**Am Y Swydd**
Bydd deiliad/deiliaid y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

- Patrolio’r ardaloedd lle mae mannau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar waith ar draws y ddinas, yn unol â’r Strategaeth Orfodi a’r Rota Waith.
- Nodi achosion o barcio’n groes i’r rheolau a chyflwyno Hysbysiadau Tâl Cosb yn unol â'r arferion gweithredu a geir o fewn Llawlyfr y Swyddogion Gorfodi.
- Sicrhau y cedwir cofnodion priodol yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r arferion gweithredu a geir yn Llawlyfr y Swyddogion Gorfodi.
- Cydgysylltu â thimau eraill o fewn y grŵp gorfodi fel y bo’n briodol er mwyn sicrhau y cyflawnir y gwaith gorfodi’n effeithiol.
- Cyfrannu at werth gorau drwy weithio mewn modd effeithlon, effeithiol ac economaidd, ac awgrymu a gweithredu ffyrdd o weithio lle y bo'n bosibl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r swydd hon yn un lawn-amser a bydd yn gweithio 37 awr yr wythnos ar rota sifftiau, sy’n golygu oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae angen trwydded yrru ddilys lawn a gwiriad GDG, a chyflawni Cymhwyster Swyddog Gorfodi Sifil City & Guilds.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00297



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dwy rôl barhaol ar gyfer swydd Gorfodi Clampio Gradd 5 wedi dod yn wag yn y Tîm Gorfodi Parcio Sifil. **Am Y Swydd** Bydd deiliaid y swydd yn gyfrifol am y canlynol: - Clampio ac wedyn symud ymaith cerbydau di-dreth ar y briffordd gyhoeddus - Symud ymaith cerbydau sy'n gyson yn osgoi talu neu sy'n parcio'n beryglus - Patrolio’r...

  • Swyddog Tenantiaeth

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm Rheoli Tenantiaeth ar sail contract 2 flynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bwrw ati i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu les, yn cynnig cyngor ac arweiniad i denantiaid a lesddeiliaid ac yn rhoi camau gorfodi ar waith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen i drigolion Caerdydd. Rydym yn prosesu ceisiadau trwyddedau parcio preswylwyr, ceisiadau bathodynnau anabl ac yn prosesu hysbysiadau tâl cosb. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu’r cynllun parcio i breswylwyr yn effeithlon a rhoi cymorth gweinyddol yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Careers Wales Full time

    **Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata **(Rhan Amser)** **Gradd Cyflog 2: cyflog cychwynnol yw £13,575, pro-rata i £22,625.** **Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru.** **Rydym yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfaoedd hanfodol sy’n annibynnol, yn ddiduedd ac yn...

  • Warden Canol y Ddinas

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Bod yn gyfrifol am gyflawni prosiectau'r Cyngor yng nghanol y ddinas, er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn cael ei chyflwyno'n effeithiol yn brifddinas o'r radd flaenaf ac i ddatblygu perthnasau i sicrhau bod economi gyffredinol Caerdydd yn dangos twf a bod Caerdydd yn gyrchfan ddeniadol a hyfyw. Helpu i sicrhau Canol Dinas sy’n...