Swyddog Clampio a Gorfodaeth

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae dwy rôl barhaol ar gyfer swydd Gorfodi Clampio Gradd 5 wedi dod yn wag yn y Tîm Gorfodi Parcio Sifil.

**Am Y Swydd**
Bydd deiliaid y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

- Clampio ac wedyn symud ymaith cerbydau di-dreth ar y briffordd gyhoeddus
- Symud ymaith cerbydau sy'n gyson yn osgoi talu neu sy'n parcio'n beryglus
- Patrolio’r ardaloedd lle mae mannau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar waith ar draws y ddinas
- Nodi achosion o barcio yn groes a chyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb
- Sicrhau y cedwir cofnodion priodol yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r arferion gweithredu a geir yn Llawlyfr y Swyddogion Gorfodi,

Cyfrannu at y gwerth gorau drwy weithio mewn ffordd effeithlon, effeithiol, ac economaidd, ac awgrymu a gweithredu ffyrdd o weithio pryd bynnag y bo modd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd llawn amser yw hon am 37 awr yr wythnos. Y cyflog yw £22,129 i £25,927 y flwyddyn.

Mae angen trwydded yrru ddilys lawn, yn ogystal â chyflawni'n llwyddiannus y Cymhwyster Swyddog Gorfodi Sifil Dinas ac Urddau.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00269


  • Arweinydd Grŵp

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol ehangach megis ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chynorthwyo gyda mentrau adfer ar ôl y pandemig. Mae hefyd yn arwain y gwaith o weithredu'r dull o greu lleoedd fel y'i nodwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein swyddogaethau llunio polisïau a Rheoli Datblygu ac...

  • Swyddog Cynllunio

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu...