Cynorthwyydd Gweinyddol RHeoli Datblygu

3 weeks ago


Pembroke Dock, United Kingdom Webrecruit Full time

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cynorthwyydd Gweinyddol Rheoli Datblygu
Rhan Amser (14.8 awr yr wythnos) - Parhaol

A yw chwarae rhan allweddol mewn darparu gwasanaeth effeithlon a chywir o weinyddu rheoli datblygu yn apelio i chi? Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw unig barc cenedlaethol arfordirol gwledydd Prydain, lle mae clogwyni garw yn disgyn i draethau melyn, a dyffrynnoedd coediog yn arwain at fryniau mewndirol gwyllt - mae cynllunio wrth reswm yn chwarae rhan allweddol yn ein cyfrifoldeb am y lle arbennig hwn.

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle cyffrous newydd i ymuno â ni fel Cynorthwyydd Gweinyddol Rheoli Datblygu. Fel rhan o'r swydd hon, byddwch yn rhoi ystod lawn o gymorth technegol gan gynnwys dyletswyddau gweinyddol cyffredinol, digideiddio haenau mapiau, mewnbynnu cronfa ddata arbenigol a sicrhau ffeilio’n gywir yn electronig.

Hefyd byddwch yn ymateb i ymholiadau a cheisiadau o amrywiol ffynonellau, yn cofrestru ceisiadau cynllunio ac ymholiadau cyn-ymgeisio ac yn paratoi rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio, hysbysiadau safle a hysbysebion, tra’n cydymffurfio â deddfwriaeth Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

**Rydym yn chwilio am berson sydd â**:

- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da a bod yn gymwys i weithio ar Excel, gan gynnwys mewnbynnu data a digideiddio haenau mapiau.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da a safonau uchel o gywirdeb a bod yn ddibynadwy.
- Sgiliau Iaith Gymraeg (Lefel B2 neu uwch).
- Profiad profedig o weinyddiaeth swyddfa.
- Saesneg a Mathemateg ar lefel TGAU neu gyfatebol.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

**Cyflog a Buddion**:
Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, y flwyddyn (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiau Cau**: 15 Mawrth 2024


  • Parcmon Ardal

    7 days ago


    Pembroke Dock, United Kingdom Pembrokeshire Coast National Park Authority Full time

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Parcmon Ardal (y De Orllewin) 12 Mis (Cyflenwi adeg Absenoldeb Mamolaeth). Ydych chi yn angerddol am yr arfordir ac am helpu i ddangos yr hyn sydd gan Barc Cenedlaethol godidog Sir Benfro i'w gynnig? Mae Parcmon y De Orllewin yn cynnig gweithgareddau ymgysylltu a gwirfoddoli, ac yn cynorthwyo cymunedau,...

  • Parcmon Ardal

    7 days ago


    Pembroke Dock, United Kingdom Pembrokeshire Coast National Park Authority Full time

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Parcmon Ardal (y Gogledd Orllewin) Llawn amser - Parhaol. Ydych chi yn angerddol am yr arfordir ac am helpu i ddangos yr hyn sydd gan Barc Cenedlaethol godidog Sir Benfro i'w gynnig? Mae Parcmon y Gogledd Orllewin yn cynnig gweithgareddau ymgysylltu a gwirfoddoli, ac yn cynorthwyo cymunedau, tirfeddianwyr a...


  • Pembroke Dock, United Kingdom Webrecruit Full time

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Swyddog Cynnal a Chadw Llanion Rhan Amser (14 awr yr wythnos) - Parhaol Oes gennych chi brofiad o fod yn ofalwr, gwneud gwaith cynnal a chadw, goruchwylio adeiladau neu gefndir DIY neu grefft? Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle cyffrous newydd i ymuno â’n hadran Gwasanaethau Llanion fel...