Parcmon Ardal

4 weeks ago


Pembroke Dock, United Kingdom Pembrokeshire Coast National Park Authority Full time

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Parcmon Ardal (y Gogledd Orllewin)
Llawn amser - Parhaol.

Ydych chi yn angerddol am yr arfordir ac am helpu i ddangos yr hyn sydd gan Barc Cenedlaethol godidog Sir Benfro i'w gynnig? Mae Parcmon y Gogledd Orllewin yn cynnig gweithgareddau ymgysylltu a gwirfoddoli, ac yn cynorthwyo cymunedau, tirfeddianwyr a phartneriaid i reoli hamdden, cefnogi adfer byd natur a hyrwyddo cynaliadwyedd.

**Bydd y Parcmon Ardal yn gyfrifol am y canlynol**:

- Cryfhau a datblygu perthnasoedd rhwng APCAP a chymunedau lleol, a rhoi cyfleoedd iddynt ymweld â’r Parc Cenedlaethol, dysgu am y Parc a gofalu am y Parc.
- Cyflwyno rhaglenni addysg, allgymorth a gweithgareddau lleol, a chynorthwyo swyddogion arbenigol i ddatblygu rhaglenni ymgysylltu a chynnwys.
- Ymateb i ddigwyddiadau a phwysau yn yr ardal, ac ymdrin â hynny.
- Mynd ati i geisio a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli i grwpiau ac unigolion, yn enwedig ymhlith y rhai fydd yn cael y budd mwyaf o’r cyfleoedd hynny.
- Cyfrannu at y gwaith o reoli eiddo, cadwraeth a hawliau tramwy drwy waith ymarferol a monitro gyda gwirfoddolwyr.
- Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ardal APCAP y tu allan i oriau i ddelio â materion brys.
- Cymryd rôl arweiniol o ran cyflawni swyddogaeth arbenigol ar ran y tîm megis:

- Rheoli hamdden anturus
- Monitro bywyd gwyllt a chadwraeth
- Rheoli’r Gwasanaeth Wardeniaid Gwirfoddol

**Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus**:

- Allu dangos llwyddiant blaenorol a phrofiad sy'n berthnasol i'r swydd.
- Bod yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu ymgysylltu â phobl o bob gallu a chefndir mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn bersonol ac ar-lein.
- Bod yn berson ymarferol sy'n gallu gweld cyfleoedd a chyflawni prosiectau i safon uchel.
- Bod yn frwd dros hanes natur a'r amgylchedd arfordirol ac yn gallu dehongli'r dirwedd i eraill.
- Yn gallu defnyddio TG i gyfathrebu, cynhyrchu adroddiadau a rheoli gwaith
- Trwydded yrru lawn.
- Y gallu i siarad Cymraeg ar Lefel Uwch B2 (gweler y fframwaith cymhwysedd).

Disgrifiad swydd llawn ar gael i'w lawrlwytho.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS.

**Cyflog a Buddion**:
Cyflog yn amrywio o £22,777+15% i £26,845+15%, yn dibynnu ar brofiad. O leiaf 26 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau ardderchog o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiad Cau**: 03/02/2023
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.