Swyddog Cynnal a Chadw Llanion

2 weeks ago


Pembroke Dock, United Kingdom Webrecruit Full time

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Swyddog Cynnal a Chadw Llanion
Rhan Amser (14 awr yr wythnos) - Parhaol

Oes gennych chi brofiad o fod yn ofalwr, gwneud gwaith cynnal a chadw, goruchwylio adeiladau neu gefndir DIY neu grefft? Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle cyffrous newydd i ymuno â’n hadran Gwasanaethau Llanion fel Swyddog Cynnal a Chadw Parc Llanion.
Fel rhan o'r swydd hon, byddwch yn sicrhau bod yr adeilad, y gofodau mewnol a'r tiroedd yn amgylchedd gweithio saff a diogel a dymunol i’r staff ac i’r ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys gwneud gwaith ymarferol, goruchwylio staff contract a gwneud gwaith cydymffurfio a monitro.

Byddwch yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol gan gynnwys addurno, gwaith plymio a draenio sylfaenol ac ailosod a chynnal a chadw gosodiadau a ffitiadau. Hefyd bydd deiliad y swydd yn cynnal gwiriadau sylfaenol ar y tiroedd a’r adeiladau, gan sicrhau diogelwch y safle, rheoli ailgylchu yn effeithiol a rheoli’r modd y mae’r system wresogi biomas yn gweithio yn ddyddiol.

**Rydym yn chwilio am rywun sydd â**:

- Gwybodaeth sylfaenol o dasgau cynnal a chadw cyffredinol, a'r gallu i wneud mân atgyweiriadau.
- Profiad fel gofalwr a chynnal a chadw.
- Cymwysterau neu brofiad perthnasol mewn cefndir crefft.
- Y gallu i gadw cofnodion electronig sylfaenol.

Noder os gwelwch yn dda mai swydd yw hon i weithio 14 awr yr wythnos, a rhywfaint o hyblygrwydd i gyflenwi shifftiau eraill. Oriau gwaith: 07:30 - 10:30 a 14:00 - 18:00.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

**Cyflog a Buddion**:
Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiad Cau**: 01 Mai 2024



  • Pembroke Dock, United Kingdom Webrecruit Full time

    Pembrokeshire Coast National Park Authority - Conservation and Enforcement Assistant Full Time - Permanent A new opportunity exits to join our Planning team, where you will contribute to the delivery of the Development Management aspects of the Authority’s statutory local planning function through the processing of planning casework relating to building...