Cynorthwyydd Cyswllt Dysgwr

1 month ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r**ô**l**:
Byddwch yn cysylltu â myfyrwyr mewn mannau myfyrwyr, gan gynnwys ystafell gyffredin ac ardaloedd arlwyo myfyrwyr, a pherimedr yr adeiladau, gyda'r nod o annog ymddygiad cadarnhaol a chyfranogiad mewn gweithgareddau.
- Amser Llawn (37 awr yr wythos)
- Yn Ystod y Tymor (36 wythnos y flwyddyn)
- Contract Cyfnod penodol: tan 25fed Gorfennaf 2024
- £17,345.00 y flwyddyn
- Tycoch campws

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Gweithio'n agos gyda'r myfyrwyr i atgyfnerthu Cod Ymddygiad Myfyrwyr y Coleg yn rhagweithiol gan gynnwys eu bod bob amser yn cario eu Cerdyn Adnabod Myfyriwr ac yn annog ymddygiad cadarnhaol tuag at ei gilydd, gan gynnwys herio ymddygiad drwg e.e. iaith anweddus, gollwng neu adael sbwriel
- Cymorth ar weithgareddau cyfoethogi traws-golegol ar ac oddi ar y campws.
- Derbyn atgyfeiriadau gan dîm SSO i weithio gyda myfyrwyr unig neu bryderus, sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn ystod amser egwyl a lle y bo'n ymarferol eu partneru gyda myfyrwyr eraill unig neu bryderus.

**Amdanoch chi**:

- Cymwysterau Lefel 3 neu uwch mewn hyfforddi, mentora neu waith ieuenctid
- Profiad o weithio gydag unigolion neu grwpiau o bobl ifanc i newid ac i herio ymddygiadau
- Wedi eich hyfforddi i ymyrryd mewn sefyllfaoedd o wrthdaro posibl neu wirioneddol

**Buddion**:

- 5.66 Wythnos o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Parcio am ddim
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corf
- Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

**Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £21,710



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...