Cynorthwydd Cyswllt Myfyrwyr

3 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r**ô**l**:

- Byddwch yn cysylltu â myfyrwyr mewn mannau myfyrwyr, gan gynnwys ystafell gyffredin ac ardaloedd arlwyo myfyrwyr, a pherimedr yr adeiladau, gyda'r nod o annog ymddygiad cadarnhaol a chyfranogiad mewn gweithgareddau._
- Rhan-Amser (15 awr yr wythnos)
- Yn Ystod y Tymor (36 wythnos y flwyddyn)
- Cyfnod Penodol tan 26 Mai 2024
- £7,580 - £7,742 y flwyddyn (£12.13 - £12.39 y awr)
- Campws Tycoch, SA2 9EB

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Patrolio ardaloedd y myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn modd derbyniol gan gynnwys cael presenoldeb gweladwy yn yr ystafell gyffredin a'r ardaloedd bar coffi yn ystod amseroedd allweddol h.y. monitro amseroedd egwyl a chinio i annog agweddau cadarnhaol tuag at cgynhaliaeth y gofod e.e. defnyddio dodrefn.
- Gweithio'n agos gyda'r myfyrwyr i atgyfnerthu Cod Ymddygiad Myfyrwyr y Coleg yn rhagweithiol gan gynnwys eu bod bob amser yn cario eu Cerdyn Adnabod Myfyriwr ac yn annog ymddygiad cadarnhaol tuag at ei gilydd, gan gynnwys herio ymddygiad drwg e.e. iaith anweddus, gollwng neu adael sbwriel, ac ati.
- Cynorthwyo’r Tîm Profiad y Dysgwr gyda gweithgareddau cyfoethogi trawsgolegol - ar ac oddi ar y campws.

**Amdanoch chi**:

- Cymwysterau Lefel 3 neu uwch mewn hyfforddi, mentora neu waith ieuenctid
- Wedi eich hyfforddi i ymyrryd mewn sefyllfaoedd o wrthdaro posibl neu wirioneddol
- Lefel 2 (TGAU gradd A-C) neu gymhwyster Mathemateg a Saesneg cyfatebol yn hanfodol ar gyfer y swydd
- Profiad o ysgogi pobl ifanc

**Buddion**:

- 28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...

  • Tiwtor Cemeg

    7 days ago


    Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Prif ddiben y swydd** Er mwyn cyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod yn un o'r 30 o brifysgolion gorau, mae angen ar Brifysgol Abertawe weithlu â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, addysgu, dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ac i fod yn bwerdy ar gyfer economi'r rhanbarth ac yn...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...