Cynorthwyydd Adnoddau Dynol

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r**ô**l**:
Darparu cymorth gweinyddol er mwyn helpu’r tîm AD i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel i reolwyr a staff; gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr sy’n dod i’r adran ac ateb ymholiadau dros y ffôn.
- Amser-Llawn, 37 awy yr wythnos
- Parhaol
- Cyflog: £22,982 - £25,017
- Abertawe (SA2)

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Cefnogi’r Swyddogion Recriwtio i weinyddu’r broses recriwtio, paratoi pecynnau cyfweld, gwneud ceisiadau am dystlythyrau.
- Paratoi a dosbarthu adroddiadau i’r Tîm AD.
- Helpu i fynd i’r afael â cheisiadau ad hoc am wybodaeth ac adroddiadau e.e. Data Iaith Gymraeg, ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth, ceisiadau am forgeisi ac adroddiadau.
- Monitro mewnflwch yr adran AD i sicrhau bod pob ymholiad a dderbynnir dros e-bost yn cael ei drin mewn modd amserol.

**Amdanoch chi**:

- Profiad o weithio mewn swyddfa yn hanfodol, profiad o weithio mewn rôl AD yn dymunol.
- Sgiliau TG gwych a llygad dda am fanylder a chraffter ardderchog.
- 5 TGAU, gan gynnwys gradd C mewn Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau cyfathrebu cadarn, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hyderus wrth ymdrin â phobl.
- Gweithio’n effeithiol o dan bwysau i gwrdd â therfynau amser.
- Sgiliau’r Iaith Gymraeg -Lefel 2 yn dymunol.

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023).
- Parcio am ddim.
- 2 ddiwrnod lles i staff.
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
- Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad.
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).