Swyddog Gorfodi Trwyddedu

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg dan un strwythur rheoli unigol. Mae'r Tîm Trwyddedu ym mhob Cyngor yn gyfrifol am brosesu ceisiadau am ystod eang o drwyddedau sy'n ofynnol gan fusnesau, unig fasnachwyr a'r sector gwirfoddol. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am ddarparu addysg a chyngor, sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau'r drwydded ac ymchwilio i gwynion ac achosion o dorri amodau trwydded. Mae’r rôl hon wedi’i lleoli’n bennaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cefnogi Awdurdod Trwyddedu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 7 - PCG 20 - 25 £28,371-£32,020

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos 5 diwrnod yr wythnos. Mae gweithio tu hwnt i oriau swyddfa arferol fel y bo’n berthnasol yn rhan o’r swydd.

Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr, ond gallai fod angen gweithio mewn ardaloedd eraill o fewn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (Caerdydd, Pen-y-bont a Bro Morgannwg) hefyd.

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Parhaol

Disgrifiad:
Cynnal ystod eang o ddyletswyddau Gorfodi Trwyddedu gan gynnwys ymchwilio i gwynion ac achosion o dorri amodau trwydded. Y gallu i gynnal ymchwiliadau ac erlyniadau cymhleth. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys prosesu ceisiadau trwyddedu cymhleth a darparu addysg a chyngor i fusnesau.

**Amdanat ti**
- Profiad o gasglu tystiolaeth a pharatoi ffeiliau achos yn arwain at orfodi effeithiol
- Gwybodaeth ynghylch darpariaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a phrosesau casglu tystiolaeth yn arwain at erlyniad
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Trwyddedu gan gynnwys prosesu a phenderfynu ar geisiadau trwydded
- Y gallu i weithio gydag ond ychydig o oruchwyliaeth ac i flaenoriaethu, trefnu a chwblhau gwaith i derfynau amser caeth
- Yn gallu gweithio fel unigolyn ac fel aelod o dîm amlddisgyblaethol
- Ymrwymedig i safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Dim

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Ilaria Agostini-Green 07967821245

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00415



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - dan un strwythur rheoli unigol. Mae’r Gwasanaeth yn bennaf atebol i Gydbwyllgor o Aelodau Etholedig, ond bydd y rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd wasanaethu’r Pwyllgorau Trwyddedu a Diogelu’r...

  • Warden Anifeiliaid

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n cyflawni’r swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Dyma rôl ddiddorol ac amrywiol yn adran Gwasanaethau Mentrau ac Arbenigol y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Gan weithio ledled...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg sy’n cyflawni swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir swydd wag yn ein Tîm Diwydiant ar hyn o bryd. Rydym yn chwilio am weithiwr Iechyd yr...