Warden Anifeiliaid
1 month ago
**Amdanom ni**
Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n cyflawni’r swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Dyma rôl ddiddorol ac amrywiol yn adran Gwasanaethau Mentrau ac Arbenigol y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Gan weithio ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni'r ystod lawn o ddyletswyddau sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon, gan gynnwys casglu cŵn strae ac anifeiliaid eraill, archwilio safleoedd trwyddedig sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid megis cynelau, stablau a siopau anifeiliaid anwes a hefyd hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o anifeiliaid trwy gymryd rhan mewn trafodaethau a digwyddiadau.
Mae'r swydd wag wedi codi o fewn ein Tîm (Amgylchedd) ar sail dros dro (hyd at 12 mis), i lenwi swydd y deiliad sydd ar secondiad i rôl arall.
Gofynnir am geisiadau gan weithwyr proffesiynol, brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion y Cyflog: Gradd 6, SCP 14 - 19 £25,409-£27,852 y flwyddyn
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr o weithio hyblyg (bydd ceisiadau rhan-amser/rhannu swydd yn cael eu hystyried)
Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Secondiad deiliad y swydd
**Disgrifiad**
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
- Gorfodi dyletswyddau statudol y Cyngor mewn perthynas â chasglu / atafaelu cŵn strae ac anifeiliaid eraill
- Cynnal patrolau rheolaidd, cyflwyno hysbysiadau fel y bo'n briodol a dychwelyd anifeiliaid i berchnogion neu gyfleusterau cenel dynodedig
- Ymchwilio cwynion a gorfodi deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â chŵn peryglus
- Archwilio mangreoedd sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid megis cynelau, stablau, sefydliadau bridio cŵn, sefydliadau marchogaeth a siopau anifeiliaid anwes cyn iddynt gael eu trwyddedu; a delio â chwynion am y fath mangreoedd a materion y mae angen eu hymchwilio/gorfodi wrth iddynt godi.
- Ar bob achlysur, hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o anifeiliaid trwy gymryd rhan mewn trafodaethau addysgol a chymryd rhan mewn mentrau amlasiantaeth (er enghraifft digwyddiadau microsglodynnu) a digwyddiadau tebyg.
**Amdanat ti**
- Rhywfaint o brofiad blaenorol fel Warden Cŵn neu Warden Anifeiliaid.
- Profiad o drin cŵn ac anifeiliaid eraill.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth gorfodi sy’n gysylltiedig â chŵn
- Hyfforddiant Wardeiniaid Cŵn Ardystiedig gan sefydliad cydnabyddedig
- Y gallu i ddelio ag ystod eang o bobl a sefyllfaoedd
- Y gallu i yrru / teithio ledled, Pen-y-bont ar Ogwr / Caerdydd / Bro Morgannwg neu rhwng lleoliadau os yw'n berthnasol.
- Y gallu i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i'w gilydd, i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Nac oes
Ystyrir trefniant secondiad ar yr amod bod caniatâd wedi'i roi gan reolwr llinell bresennol yr ymgeisydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â**:Jason Bale| Operational Manager (Enterprise and Specialist Services)** **Tel:
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth_._
Job Reference: EHS00446
-
Warden Anifeiliaid
1 month ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n cyflawni’r swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Dyma rôl ddiddorol ac amrywiol yn adran Gwasanaethau Mentrau ac Arbenigol y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Gan weithio ledled...