Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
1 week ago
Y Cyfle
Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.
Mae Yolk Recruitment yn cynorthwyo Adnodd i recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol. Fel aelod allweddol o Uwch Dîm Rheoli Adnodd, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn arwain y sefydliad ac yn meithrin diwylliant sy’n grymuso, yn dysgu ac yn ddeinamig. Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr, cyflenwyr, cyllidwyr, rhanddeiliaid a Bwrdd Adnodd i gynnal safonau uchel o lywodraethu corfforaethol, uniondeb a chydymffurfiaeth. Dros amser, byddwch yn recriwtio ac yn rheoli tîm bach o staff i sicrhau bod gwasanaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu darparu’n effeithiol ac yn effeithlon.
Y Swydd
Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi’n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein swyddogaethau cyllid, llywodraethu corfforaethol, masnachol, adnoddau dynol, TG, cydymffurfiaeth a gweinyddol, gan gynnwys:
Rheoli Ariannol -
- Rheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio’n agos ag archwilwyr allanol.
- Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth ariannol gadarn ar draws Adnodd, gan sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cael cyngor priodol.
Adnoddau Dynol -
- Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.
- Sicrhau bod swyddogaethau AD yn cael eu cyflawni’n effeithiol, gan gynnwys recriwtio, rheoli perfformiad, hyfforddiant a chysylltiad rhwng gweithwyr, yn unol â chyfreithiau a rheoliadau cyflogaeth a chytundebau fframwaith Llywodraeth Cymru.
Darpariaeth ac Offer TG a Seiberddiogelwch -
- Sicrhau bod systemau, seilwaith ac offer TG yn cael eu rheoli’n effeithiol i gefnogi effeithlonrwydd a diogelwch gweithredol.
- Cydweithio â gweithwyr TG proffesiynol i nodi a gweithredu datrysiadau technoleg sy'n cyd-fynd ag anghenion y sefydliad ac sy'n darparu gwerth am arian o fewn cyfyngiadau cyllidebol.
Caffael a Rheoli Contractau -
- Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau caffael i sicrhau’r gwerth gorau am arian a lliniaru risgiau.
- Goruchwylio’r broses gaffael, gan gynnwys tendro, dewis cyflenwyr a rheoli contractau, a sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cynnal yn unol â pholisïau a rheoliadau perthnasol.
Llywodraethu -
- Cryfhau a chynnal fframweithiau, rheolaethau a gweithdrefnau llywodraethu i sicrhau cydymffurfiad cadarn â threfniadau adrodd, gofynion cyfreithiol a gofynion statudol.
- Bod yn rheolwr llinell i’r Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu i gefnogi’r gwaith o gydlynu a gweinyddu’r Bwrdd yn effeithiol, a chyflawni a gwella swyddogaethau a phrosesau llywodraethu a chorfforaethol.
Gofynion
Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol llwyddiannus yn meddu ar y profiad, y cymwysterau a’r nodweddion canlynol:
- Profiad amlwg o drefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol a chorfforaethol, yn ddelfrydol mewn swydd debyg.
- Profiad amlwg o arwain ar lefel uwch, gan gynnwys sicrhau diwylliant sefydliadol cadarnhaol a chefnogol, a gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ar lefel y Bwrdd ac ar lefel weithredol.
- Profiad amlwg o gynllunio a rheoli ariannol, cyllidebu ac adrodd, a hynny’n strategol ac yn weithredol. Mae cymhwyster ariannol proffesiynol perthnasol yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon.
- Profiad amlwg o lunio, darparu ac addasu cynlluniau busnes yn llwyddiannus i gyflawni amcanion strategol, cydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, a goresgyn heriau yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid neu dwf.
- Sgiliau arwain rhagorol, sy’n galluogi sefydliadau i greu a gweithredu systemau effeithiol ar gyfer cyflawni a chydymffurfio.
- Gwybodaeth am egwyddorion ac arferion llywodraethu corfforaethol, a threfniadau adrodd a chydymffurfio rheoleiddiol a statudol.
- Meddwl yn strategol ac yn ddadansoddol gyda’r gallu i ddarparu gwasanaethau corfforaethol yn unol â nodau’r sefydliad.
- Arddull arwain gydweithredol a chynhwysol, a gallu gweithio’n dda mewn tîm.
- Dull rhagweithiol o fynd i'r afael â heriau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Ymrwymiad i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.
Rhuglder Iaith
- Mae’n hanfodol bod gennych o leiaf lefel ganolradd o Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
- Cymraeg yw iaith naturiol y cwmni o ddydd i ddydd ac mae Adnodd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r holl staff i loywi eu sgiliau a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Wrth drafod a chyflwyno materion technegol a gweithredol, defnyddir y Gymraeg a Saesneg yn hyblyg, gyda chydweithwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog i feithrin eu sgiliau Cymraeg dros amser.
Tâl
Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol llwyddiannus yn cael:
- Cyflog cychwynnol o £71,500
- Gweithio’n hyblyg
- Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Amrywiaeth o fuddion ychwanegol
Yolk Recruitment yw partner recriwtio neilltuedig Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk yn dilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd ei hun.
-
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY CyfleMae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu...
-
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY CyfleAll potential candidates should read through the following details of this job with care before making an application.Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd...
-
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
4 days ago

7 days ago
Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY Cyfle Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i...
-
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY CyfleMae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu...
-
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeSwydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau CorfforaetholY Yolk Recruitment Ltd yn chwilio am Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i ymuno â'n tîm.Mae'r swydd yn cynnwys:Rheoli ariannol, cynllunio a chyllidebu.Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.Sicrhau bod...
-
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi'n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein swyddogaethau cyllid, llywodraethu corfforaethol,...

5 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol.Rheoli AriannolRheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio'n agos ag archwilwyr allanol.Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth...
-
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
4 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeY SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol.Rheoli AriannolRheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio'n agos ag archwilwyr allanol.Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth...
-
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeSwydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau CorfforaetholY Yolk Recruitment Ltd yn chwilio am Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i ymuno â'n tîm.Mae'r swydd yn cynnwys:Rheoli ariannol, cynllunio a chyllidebu.Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.Sicrhau bod...
-
Swyddog Rheoli Corfforaethol
6 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full timeSwydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau CorfforaetholY SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi'n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein...
-
Hyfforddai Corfforaethol
3 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Pennaeth Technoleg Corfforaethol
4 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Sport Wales Chwaraeon Cymru Full timePennaeth Llywodraethu Corfforaethol a ThechnolegSwyddi yn Adran Gwasanaethau Cyllid a BusnesSwyddi: Pennaeth Technoleg CorfforaetholOriau GwaithAmser Gwaith: 37 awrYstyriaeth i Rannu Swydd / Llai o Oriau: Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblygSwyddi CyswlltSwyddi Cyswllt: Mae'r swydd hwn yn rhan o...

Cardiff, Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full timeSwydd: Pennaeth Rheolaeth Corfforaethol a ThechnolegAdran: Gwasanaethau Cyllid a BusnesCyflog: £56,112 - £61,535.33Oriau Gwaith: 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â pholisi gweithio hyblyg)Amser Cau: Medi 23ain yn 9amAmser Dros Dro y Cyfweliad: Hydref 10fedMae'r swydd hwn yn rhan o Adran Gwasanaethau Cyllid a...

Cardiff, Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full timeSwydd: Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a Thechnoleg Adran a Chyflog Adran Gwasanaethau Cyllid a Busnes Cyflog £56,112 - £61,535.33 Oriau Gwaith 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg) Disgrifiad o'r Swydd Mae Sport Wales yn chwilio am weithiwr analluog i ymuno â'n tim rheoli...
-
Prentis Corfforaethol
3 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...