Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

1 week ago

Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

Y Cyfle

Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.

Mae Yolk Recruitment yn cynorthwyo Adnodd i recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol. Fel aelod allweddol o Uwch Dîm Rheoli Adnodd, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn arwain y sefydliad ac yn meithrin diwylliant sy’n grymuso, yn dysgu ac yn ddeinamig. Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr, cyflenwyr, cyllidwyr, rhanddeiliaid a Bwrdd Adnodd i gynnal safonau uchel o lywodraethu corfforaethol, uniondeb a chydymffurfiaeth. Dros amser, byddwch yn recriwtio ac yn rheoli tîm bach o staff i sicrhau bod gwasanaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu darparu’n effeithiol ac yn effeithlon.

Y Swydd

Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi’n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein swyddogaethau cyllid, llywodraethu corfforaethol, masnachol, adnoddau dynol, TG, cydymffurfiaeth a gweinyddol, gan gynnwys:

Rheoli Ariannol -

  • Rheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio’n agos ag archwilwyr allanol.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth ariannol gadarn ar draws Adnodd, gan sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cael cyngor priodol.

Adnoddau Dynol -

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.
  • Sicrhau bod swyddogaethau AD yn cael eu cyflawni’n effeithiol, gan gynnwys recriwtio, rheoli perfformiad, hyfforddiant a chysylltiad rhwng gweithwyr, yn unol â chyfreithiau a rheoliadau cyflogaeth a chytundebau fframwaith Llywodraeth Cymru.

Darpariaeth ac Offer TG a Seiberddiogelwch -

  • Sicrhau bod systemau, seilwaith ac offer TG yn cael eu rheoli’n effeithiol i gefnogi effeithlonrwydd a diogelwch gweithredol.
  • Cydweithio â gweithwyr TG proffesiynol i nodi a gweithredu datrysiadau technoleg sy'n cyd-fynd ag anghenion y sefydliad ac sy'n darparu gwerth am arian o fewn cyfyngiadau cyllidebol.

Caffael a Rheoli Contractau -

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau caffael i sicrhau’r gwerth gorau am arian a lliniaru risgiau.
  • Goruchwylio’r broses gaffael, gan gynnwys tendro, dewis cyflenwyr a rheoli contractau, a sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cynnal yn unol â pholisïau a rheoliadau perthnasol.

Llywodraethu -

  • Cryfhau a chynnal fframweithiau, rheolaethau a gweithdrefnau llywodraethu i sicrhau cydymffurfiad cadarn â threfniadau adrodd, gofynion cyfreithiol a gofynion statudol.
  • Bod yn rheolwr llinell i’r Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu i gefnogi’r gwaith o gydlynu a gweinyddu’r Bwrdd yn effeithiol, a chyflawni a gwella swyddogaethau a phrosesau llywodraethu a chorfforaethol.

Gofynion

Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol llwyddiannus yn meddu ar y profiad, y cymwysterau a’r nodweddion canlynol:

  • Profiad amlwg o drefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol a chorfforaethol, yn ddelfrydol mewn swydd debyg.
  • Profiad amlwg o arwain ar lefel uwch, gan gynnwys sicrhau diwylliant sefydliadol cadarnhaol a chefnogol, a gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ar lefel y Bwrdd ac ar lefel weithredol.
  • Profiad amlwg o gynllunio a rheoli ariannol, cyllidebu ac adrodd, a hynny’n strategol ac yn weithredol. Mae cymhwyster ariannol proffesiynol perthnasol yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon.
  • Profiad amlwg o lunio, darparu ac addasu cynlluniau busnes yn llwyddiannus i gyflawni amcanion strategol, cydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, a goresgyn heriau yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid neu dwf.
  • Sgiliau arwain rhagorol, sy’n galluogi sefydliadau i greu a gweithredu systemau effeithiol ar gyfer cyflawni a chydymffurfio.
  • Gwybodaeth am egwyddorion ac arferion llywodraethu corfforaethol, a threfniadau adrodd a chydymffurfio rheoleiddiol a statudol.
  • Meddwl yn strategol ac yn ddadansoddol gyda’r gallu i ddarparu gwasanaethau corfforaethol yn unol â nodau’r sefydliad.
  • Arddull arwain gydweithredol a chynhwysol, a gallu gweithio’n dda mewn tîm.
  • Dull rhagweithiol o fynd i'r afael â heriau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Ymrwymiad i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.

Rhuglder Iaith

  • Mae’n hanfodol bod gennych o leiaf lefel ganolradd o Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
  • Cymraeg yw iaith naturiol y cwmni o ddydd i ddydd ac mae Adnodd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r holl staff i loywi eu sgiliau a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Wrth drafod a chyflwyno materion technegol a gweithredol, defnyddir y Gymraeg a Saesneg yn hyblyg, gyda chydweithwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog i feithrin eu sgiliau Cymraeg dros amser.

Tâl

Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol llwyddiannus yn cael:

  • Cyflog cychwynnol o £71,500
  • Gweithio’n hyblyg
  • Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Amrywiaeth o fuddion ychwanegol

Yolk Recruitment yw partner recriwtio neilltuedig Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk yn dilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd ei hun.

  • Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Y CyfleAll potential candidates should read through the following details of this job with care before making an application.Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd...

  • Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Y CyfleMae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu...

    Y Cyfle Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i...

  • Cardiff County, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Y CyfleMae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Swydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau CorfforaetholY Yolk Recruitment Ltd yn chwilio am Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i ymuno â'n tîm.Mae'r swydd yn cynnwys:Rheoli ariannol, cynllunio a chyllidebu.Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.Sicrhau bod...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Y SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi'n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein swyddogaethau cyllid, llywodraethu corfforaethol,...

    Y SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol.Rheoli AriannolRheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio'n agos ag archwilwyr allanol.Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Y SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol.Rheoli AriannolRheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio'n agos ag archwilwyr allanol.Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Swydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau CorfforaetholY Yolk Recruitment Ltd yn chwilio am Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i ymuno â'n tîm.Mae'r swydd yn cynnwys:Rheoli ariannol, cynllunio a chyllidebu.Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.Sicrhau bod...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Swydd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau CorfforaetholY SwyddByddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi'n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Sport Wales Chwaraeon Cymru Full time

    Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a ThechnolegSwyddi yn Adran Gwasanaethau Cyllid a BusnesSwyddi: Pennaeth Technoleg CorfforaetholOriau GwaithAmser Gwaith: 37 awrYstyriaeth i Rannu Swydd / Llai o Oriau: Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblygSwyddi CyswlltSwyddi Cyswllt: Mae'r swydd hwn yn rhan o...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full time

    Swydd: Pennaeth Rheolaeth Corfforaethol a ThechnolegAdran: Gwasanaethau Cyllid a BusnesCyflog: £56,112 - £61,535.33Oriau Gwaith: 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â pholisi gweithio hyblyg)Amser Cau: Medi 23ain yn 9amAmser Dros Dro y Cyfweliad: Hydref 10fedMae'r swydd hwn yn rhan o Adran Gwasanaethau Cyllid a...

    Swydd: Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a Thechnoleg Adran a Chyflog Adran Gwasanaethau Cyllid a Busnes Cyflog £56,112 - £61,535.33 Oriau Gwaith 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg) Disgrifiad o'r Swydd Mae Sport Wales yn chwilio am weithiwr analluog i ymuno â'n tim rheoli...

  • Prentis Corfforaethol

    3 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...