Prif Weithiwr Cymdeithasol

1 week ago


Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai'n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a chynorthwywyr adnoddau (cymorth gweinyddol ychwanegol).

**Am Y Swydd** Manteision a gynigir**

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.

Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy'n canu clod Caerdydd.
- Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd

Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a'r anawsterau sy'n sail iddynt.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r timau'n gweithio yn ôl dull sy'n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd.

Fel y Prif Weithiwr Cymdeithasol cewch gyfle i ddatblygu arferion eraill o fewn y tîm drwy gydweithio a goruchwylio tra hefyd yn arwain drwy esiampl fel deiliad achos ar gyfer y plant hynny ag anghenion mwy cymhleth sydd angen arbenigedd ymarferydd profiadol a medrus.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio pod o gynorthwywyr gwaith cymdeithasol a staff gwaith cymdeithasol llai profiadol. Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am unigolyn sy'n gallu cefnogi staff, gan sicrhau bod ffocws amgylchedd cefnogol a chadarnhaol yn cael ei feithrin o fewn y tîm. Byddwch yn gyfrifol am gynnal goruchwyliaeth fisol, cadeirio cyfarfodydd strategaeth a mynychu ymweliadau ar y cyd. Bydd disgwyl i chi ddarparu goruchwyliaeth reolaidd o gynlluniau gofal y Bobl Ifanc trwy sicrwydd ansawdd cadarn i'r gwaith Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol a phresenoldeb mewn cyfarfodydd perthnasol megis Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal.

Er nad yw'r rôl yn ymwneud ag achosion penodol, lle mae pryderon yn gwaethygu mewn perthynas â Phobl Ifanc a ddyrannwyd i un o'ch goruchwylwyr, bydd disgwyl i chi ymgymryd â dyraniad nes bod risgiau wedi lleihau i alluogi adleoli i'r Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol neu'r Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae'r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn rhan o'r swydd hon, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swyd

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol.Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    Am Y GwasanaethMae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â'r Tîm Asesiadau Perthynas. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy'n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio'r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant.**Manteision a gynigir**Mae Caerdydd yn aml ar frig...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd.Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Gabalfa, a leolir yng Ngogledd Orllewin Caerdydd. Rydym yn dîm mawr, deinamig sy'n delio ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd â dalgylchoedd gwahanol. Mae gennym un...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Hyb Ymyriadau. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol i arwain ar brosiect newydd yn cefnogi timau statudol sy'n gweithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol.**Amdanom NI**Y manteision a gynigirMae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd...

  • Rheolwr Tîm

    1 week ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn ceisio recriwtio Rheolwyr Tîm yn ein gwasanaeth Iechyd ac Anableddau Plant.Mae'r swydd hon yn agored i'r rheiny sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rheiny sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth***Mae atodiad marchnad o £3000 yn daladwy yn ychwanegol at y cyflog a restrir*Mae ein gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol yn rhan o'r Gwasanaethau Oedolion, o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd.Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.- Mae ein...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru.Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n Gwasanaeth Pobl Hŷn a Namau Corfforol yn y Gwasanaethau Oedolion.Mae hon yn swydd barhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae'r rôl gyda'n Tîm Ysbytai yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr gofal...

  • Dirprwy Reolwr Tîm

    1 week ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.**Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n chwilio am waith neu'n edrych i uwchsgilio. Gall y tîm gynnig cymorth a mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd i wirfoddoli.Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn cyn-gyflogi cyflawn i...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**A oes diddordeb gennych mewn gyrfa Gwaith Cymdeithasol?Mae dod yn Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd.Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u hariannu...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a Datblygu...