Current jobs related to Prif Weithiwr Cymdeithasol - Cardiff, Cardiff - Cardiff Council


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    Am yr SwyddYn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn chwilio am weithiwr PhD sy'n deall y pwysigrwydd o arweinyddiaeth a chymunedau cymdeithasol yn ystod blwyddynau cynnar.Ein GweledigaethEin gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, teuluoedd, a gofalwyr yn Gymru.Ein ArbenigeddRydym yn arwain y gwaith yn y maes gofal...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    Am yr SwyddYn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn chwilio am weithiwr PhD sy'n deall y pwysigrwydd o arweinyddiaeth a arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein GweledigaethEin gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, teuluoedd, a gofalwyr. Mae'n ein nod i arwain y gwlad yn y maes hwn,...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full time

    Swydd: Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a Thechnoleg Adran a Chyflog Adran Gwasanaethau Cyllid a Busnes Cyflog £56,112 - £61,535.33 Oriau Gwaith 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg) Disgrifiad o'r Swydd Mae Sport Wales yn chwilio am weithiwr analluog i ymuno â'n tim rheoli...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer Prif Weithiwr Cymdeithasol i weithredu fel cyswllt allweddol rhwng CAMHS a'r Gwasanaethau Plant. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau. Byddai hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig ac Asesiadau Unigolion Cysylltiedig gan gynnwys asesiadau pontio ar gyfer y gofalwyr hynny sy'n dilyn trefniant Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae hwn yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym am recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol o fewn Gwasanaethau Oedolion. Mae'r rhain yn swyddi parhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae eu rôl gyda'n Tîm Dyletswydd yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...

  • Uwch Weithiwr Cymorth

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Byw â Chymorth Mewnol Caerdydd wrth iddo gychwyn ar raglen o wella a moderneiddio. Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig y cyfle i chi weithio o fewn cymuned fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru. Mae ein Gwasanaeth Byw â Chymorth bach ar hyn o bryd yn cefnogi 18 o unigolion ac yn cynnig...

  • Rheolwr Tîm

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio recriwtio Rheolwyr Tîm yn ein gwasanaeth Iechyd ac Anableddau Plant. Mae'r swydd hon yn agored i'r rheiny sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rheiny sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** *Mae atodiad marchnad o £3000 yn daladwy yn ychwanegol at y cyflog a restrir* Mae ein gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol yn rhan o'r Gwasanaethau Oedolion, o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n...

  • Gwithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno ag un o’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n Gwasanaeth Pobl Hŷn a Namau Corfforol yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae hon yn swydd barhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae’r rôl gyda'n Tîm Ysbytai yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn...

Prif Weithiwr Cymdeithasol

3 months ago


Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag angerdd a chymhelliant er mwyn darparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r ddihareb '_mae'n cymryd pentref i fagu plentyn_' yr un mor berthnasol i ddinas fawr fel Caerdydd ag y mae yn unrhyw le - yr her yw nodi, ymgysylltu a chydweithio â'n cymunedau i gyflawni hyn. Mae model ardal Caerdydd yn caniatáu i weithwyr cymdeithasol a staff cymorth weithio yn y cymunedau lleol a dod i adnabod anghenion penodol y cymunedau rydym yn eu cefnogi. Gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau statudol ac anstatudol eraill a'r 3ydd sector, rydym yn darparu'r lefel gywir o gymorth i'n teuluoedd ar yr adeg gywir, gan rymuso teuluoedd i estyn allan at y rhwydweithiau cymorth hyn er mwyn lleihau anghenion hirdymor unigolion a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond mae hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter cymudo, mae gennych ddigon o ddewis mewn llety, gyda llwybrau trafnidiaeth ardderchog. I'r ymarferwyr hynny sy'n ceisio ehangu eu profiad o weithio gyda Phlant a'u teuluoedd, mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, drwy gyfleoedd cyffrous i ddatblygu gwybodaeth ymarfer mewn meysydd sydd ond ar gael yn y brifddinas, gan weithio gyda phlant a theuluoedd o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau.

Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â theuluoedd a phlant.

Mae gwasanaethau Plant Caerdydd yn arweinwyr o ran ymarfer ac fe'u dewiswyd fel lleoliad ar gyfer prosiectau peilot allweddol gan gynnwys Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teuluol. Rydym yn flaengar ac yn ceisio croesawu modelau gweithio newydd er mwyn sicrhau llwyddiant wrth gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl a phlant sy'n ymwneud â chamfanteisio troseddol. Mae ein ffyrdd newydd o weithio wedi ein harwain at ddatblygu timau amlddisgyblaethol.

Mae Caerdydd yn cefnogi dysgu a datblygu unigolion drwy gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth wrth gynnwys staff yn y gwaith o archwilio ac adolygu dysgu rhagweithiol sy'n galluogi datblygiad parhaus y gwasanaeth ac unigolion o fewn diwylliant meithringar a chefnogol.

Mae ffocws allweddol ar symud cydbwysedd gofal gan sicrhau mai dim ond y plant hynny na ellir lliniaru risgiau ar eu rhan sy'n cael eu rhoi y tu allan i'w rhwydwaith teuluol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ddadansoddi'r materion cyflwyno yn glir a cheisio teilwra cymorth i ddiwallu anghenion teulu a allai gynnwys cymorth dyddiol yn y cartref a/neu ddefnyddio seibiant. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd drwy ymyrraeth statudol a rhannu cyfrifoldeb rhiant dim ond pan fo'r risgiau'n mynnu hynny ac nid o ganlyniad i fynediad at adnoddau/gwasanaethau.
**Am Y Swydd**
Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a'r anawsterau sy'n sail iddynt.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r tîm yn gweithio yn ôl dull sy'n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd.

Fel y Prif Weithiwr Cymdeithasol cewch gyfle i ddatblygu arferion eraill o fewn y tîm drwy gydweithio a goruchwylio tra hefyd yn arwain drwy esiampl fel deiliad achos ar gyfer y plant hynny ag anghenion mwy cymhleth sydd angen arbenigedd ymarferydd profiadol a medrus.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych fynediad uniongyrchol i uwch reolwr fel mentor, os oes angen. Byddwch yn rhan allweddol o Dîm Rheoli'r Ardal: gan lunio ei arfer a'i ddatblygiad ochr yn ochr â PWCau eraill, Rheolwyr Tîm a'ch Rheolwr Gweithredol.

O fewn y tîm byddwch yn cymryd rôl Arweinydd Ymarfer, gan weithio gyda'r Rheolwr Tîm, cefnogi ac annog y diwylliant o fewn y gwasanaet